Buddsoddiad Biomas
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cynllun biomas Môn 'angen buddsoddwr arall

8 Chwefror 2017 Diweddarwyd 21:39 GMT

Mae Cyngor Môn yn dweud eu bod yn parhau'n ffyddiog y bydd cynllun i godi pwerdy biomas yno'n cael ei wireddu.

Daw hyn ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod y datblygwyr yn chwilio am fuddsoddwyr newydd.

Y llynedd roedd cwmni Orthios yn sôn am greu cannoedd o swyddi yng Nghaergybi, a hefyd yn y de ym Mhort Talbot.

Ond mae yna ansicrwydd oherwydd bod buddsoddwyr o China wedi tynnu ôl, gan adael blwch o £2bn.

Y gobaith yw y bydd y pwerdy yng Nghaergybi, hen safle Alwminiwm Môn, yn creu hyd at 500 o swyddi.

Dafydd Gwynn fu'n ymchwilio ar ran Newyddion 9.