Ymgyrchydd: Gall pobl sy'n erbyn addysg Gymraeg 'groesi'r ffin'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Michael Jones y byddai'n well i rieni sy'n anhapus fynd i "rywle arall"

Mae ymgyrchydd blaenllaw dros addysg Gymraeg wedi dweud y dylai rhieni sydd ddim am i'w plant gael eu haddysgu yn yr iaith "groesi'r ffin" o Gymru.

Daw neges Michael Jones, cydlynydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn y de ddwyrain, i wrthwynebwyr y penderfyniad i droi Ysgol Llangennech yn un cyfrwng Gymraeg, wrth i'r ffraeo am ddyfodol yr ysgol barhau.

Ddydd Iau fe wnaeth arweinydd grŵp UKIP y Cynulliad, Neil Hamilton, fynnu na fyddai "gorfodi'r iaith Gymraeg i lawr cyrn gwddf plant" yn help i sicrhau Cymru ddwyieithog.

Ym mis Ionawr, pleidleisiodd mwyafrif cynghorwyr Sir Gâr o blaid y newid, a dywedodd llefarydd bod y camau statudol wedi'u dilyn a'u bod wedi ymgynghori'n eang cyn dod i'r penderfyniad.

'Cer rhywle arall'

Ar raglen Newyddion9 nos Iau, gofynnwyd i Mr Jones beth oedd ei neges i'r rheiny oedd yn gwrthwynebu'r penderfyniad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd: "Os nad ydyn nhw'n licio'r Gymraeg, ga'i awgrymu fod y ffin draw 'co ac fe allen nhw groesi'r ffin.

"Os ydyn nhw ddim moyn bod mewn gwlad ble mae'r Gymraeg yn cael ei siarad, wel cer rhywle arall.

"Ond os na, dioddef y ffaith bod 'na ddwy iaith yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn dweud dyle nhw, achos bod nhw'n siarad Saesneg, fynd o Gymru.

"Ond rwy'n dweud hynny os nad ydyn nhw'n gallu dioddef clywed y Gymraeg, wel, well iddyn nhw fynd rhywle arall."

Mae RhAG wedi ymbellhau o safbwynt Mr Jones fore ddydd Gwener, gan ddweud ar wefan Twitter mai mynegi safbwynt bersonol ydoedd.

Mewn datganiad hefyd dywedodd Rhieni dros Addysg Gymraeg nad yw'r mudiad "erioed wedi dweud" y dylai pobl sydd ddim am gael addysg Gymraeg symud dros y ffin, gan fynnu ymddiheuriad gan y BBC.

Ychwanegwyd: "Mae RhAG am i bawb sydd yng Nghymru allu dewis addysg Gymraeg, y model gorau o ddatblygu sgiliau llawn yn y Gymraeg a'r Saesneg."

Image caption Cyhuddodd Neil Hamilton Plaid Cymru o orfodi newid statws iaith yr ysgol ar y pentref

Ddydd Iau, dywedodd Mr Hamilton ei fod yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond bod y penderfyniad yn Ysgol Llangennech yn mynd yn erbyn "dymuniadau rhieni".

Dywedodd: "Y bobl anoddefgar yn fan hyn yw'r aelodau Plaid Cymru sy'n gorfodi hyn ar bentref sydd ddim am ei weld."

Ychwanegodd: "Os ydyn ni'n ceisio gorfodi'r iaith Gymraeg lawr cyrn gwddf pobl fyddai fel arall am ei gwarchod, ond dydyn nhw ddim ei eisiau ar gyfer eu plant, fyddwn ni ddim yn ennill y frwydr dros feddyliau pobl er mwyn sicrhau bod Cymru'n dod yn wlad ddwyieithog o fewn fy mywyd i."

'Anffodus iawn'

Wrth ymateb i sylwadau Mr Hamilton, dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas fod y penderfyniad wedi bod yn ddemocrataidd.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n anffodus iawn bod UKIP yn trio achosi cynnen rhwng pobl sy'n siarad Cymraeg a Saesneg - mae'r penderfyniad yn Llangennech yn un i'r gymuned leol, yr ysgol, y llywodraethwyr, ac yn y pen draw, i'r cyngor sir," meddai.

Straeon perthnasol