Dylai rhieni yn erbyn addysg Gymraeg 'groesi'r ffin'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ymgyrchydd: Gall pobl sy'n erbyn addysg Gymraeg 'groesi'r ffin'

9 Chwefror 2017 Diweddarwyd 21:00 GMT

Mae ymgyrchydd blaenllaw dros addysg Gymraeg wedi dweud y dylai rhieni sydd ddim am i'w plant gael eu haddysgu yn yr iaith "groesi'r ffin".

Daw sylwadau Michael Jones wrth i'r ffraeo barhau am ddyfodol Ysgol Llangennech yn Sir Gaerfyrddin, lle mae rhai rhieni yn gwrthwynebu'r cam i droi'r ysgol yn un cyfrwng Cymraeg.