Arolwg annibynnol i ganolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell

Hen Lyfrgell Image copyright Google

Mae canolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd yn dweud y bydd arolwg anibynnol yn cael ei gomisiynu i greu cynllun busnes newydd i'r sefydliad.

Mae'r Hen Lyfrgell wedi wynebu trafferthion yn ystod ei blwyddyn gyntaf gydag ansicrwydd am ddyfodol hir-dymor y caffi bar, y crèche yn cau oherwydd "diffyg diddordeb" a phryderon gyda'r rhent.

Mae'r ganolfan hefyd wedi gofyn am gymorth gan y cyngor i aros yn agored.

Ond bu'r bwrdd yn cyfarfod â Llywodraeth Cymru yr wythnos yma, gan ddweud bod eu "hymroddiad nhw i'r prosiect yn dal yn gadarn".

'Ddim yn gynaliadwy'

"Ddaru ni sgwennu i'r llywodraeth ac i'r cyngor ym mis Hydref yn esbonio bod y cynllun busnes a gytunwyd ar gyfer yr hen lyfrgell ddim yn un rhesymol," meddai cadeirydd yr Hen Lyfrgell, Huw Onllwyn ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

"Er enghraifft, doedd y disgwyliad i ni dalu rhent o £100,000 y flwyddyn ddim yn gynaliadwy.

"Rwy'n falch o ddweud bod y llywodraeth a'r cyngor wedi ymateb yn bositif i'r llythyr, os nad yn bositif iawn.

"Yn sicr mae eu hymroddiad nhw i'r prosiect yn dal yn gadarn ac maen nhw'n awyddus iawn i weld yr Hen Lyfrgell yn llwyddo."

Image caption Dywedodd Huw Onllwyn y dylai'r llywodraeth a'r cyngor "dderbyn y cyfrifoldeb am yr hyn maen nhw wedi'i greu"

Dywedodd bod y llywodraeth wedi trafod yn eu cyfarfod ddydd Mawrth eu bod yn bwriadu "comisiynu arolwg annibynnol ar yr Hen Lyfrgell".

Fe wnaeth Mr Onllwyn groesawu hynny, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd yn "arwain at gynllun busnes mwy rhesymol a realistig".

"Yr angen nawr yw mynd ati mor fuan â phosib i gomisiynu'r gwaith hwnnw, achos mae'r caffi ar gau ers cyn y Nadolig ac mae angen cytuno ar gynllun busnes newydd er mwyn i ni ailagor yr adnodd hollbwysig yma," meddai.

Mae caffi bar yr Hen Lyfrgell ar gau ers mis Rhagfyr, a'r gred yw mai'r rhent o £46,000 y flwyddyn yw'r maen tramgwydd.

Dyma oedd yr ail waith iddo gau ers agor ei ddrysau am y tro cyntaf ym mis Chwefror y llynedd.

'Derbyn cyfrifoldeb'

Ym mis Ionawr, dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, Alun Davies AC, ei fod yn "hyderus" bod pob un o'r canolfannau iaith sydd wedi derbyn cymorth gan y llywodraeth yn mynd i lwyddo, ond mynnodd nad oedd am weld y llywodraeth fel "banker parhaol".

Cafodd yr Hen Lyfrgell ei agor gyda grant cyfalaf o £400,000 gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Onllwyn y dylai Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd "dderbyn y cyfrifoldeb am yr hyn maen nhw wedi'i greu".

"Mae'n rhaid i ni gofio mai syniad y llywodraeth yw'r canolfannau iaith, ac i raddau, problem y llywodraeth fydd ymateb yn bositif i'r arolwg, a sicrhau nad yw'r buddsoddiad yn mynd yn wastraff," meddai.

"Mae'r un peth yn wir am y cyngor - eu penderfyniad nhw oedd defnyddio'r Hen Lyfrgell fel canolfan i'r iaith."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni sicrhau, gyda'r cyngor a'r llywodraeth, bod gennym ni ganolfan i ddathlu'r Gymraeg yng nghanol ein prifddinas.

"Mae hynny'n hollol naturiol a dwi'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n gallu ein helpu ni i sicrhau bod hynny'n digwydd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i gael trafodaethau adeiladol gyda'r Hen Lyfrgell a Chyngor Caerdydd ynglŷn â dyfodol y ganolfan".