Wicedwr Morgannwg, Mark Wallace yn ymddeol

Mark Wallace Image copyright Getty Images

Mae wicedwr Morgannwg, Mark Wallace wedi ymddeol o griced ar ôl 18 mlynedd gyda'r tîm.

Roedd Wallace, 35, yn gapten rhwng 2013 a 2015 ac fe chwaraeodd 264 o gemau dosbarth cyntaf dros y sir.

Fe oedd y wicedwr cyntaf i sgorio dros 1,000 o rediadau dros y tîm mewn un tymor, ac yn 2015 fe groesodd drothwy 10,000 o rediadau yn ei yrfa.

"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i allu cynrychioli'r clwb ers cyhyd, a dwi'n cerdded ffwrdd gyda chalon drom," meddai'r gŵr o'r Fenni.