North a Biggar: 'Aros tan y funud olaf' i asesu ffitrwydd

George North a Dan Biggar Image copyright Getty Images

Bydd Cymru'n aros mor hir â phosib cyn gwneud penderfyniad ar ffitrwydd Dan Biggar a George North wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn.

Cafodd y ddau eu henwi ddydd Iau yn y tîm fydd yn herio'r Saeson yn y Chwe Gwlad, er eu bod yn gwella o anafiadau ar hyn o bryd.

Fe chwaraeodd North y gêm gyfan yn y fuddugoliaeth dros yr Eidal ddydd Sul er iddo gael anaf i'w goes, ac fe aeth Biggar oddi ar y cae ar ôl anafu ei asennau.

"Fe wnaeth y ddau gymryd rhan yn yr ymarfer heddiw," meddai hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Robin McBryde ddydd Gwener.

"Rydyn ni'r un peth ag yr oedden ni ddoe. Fe fyddwn ni'n rhoi cymaint o amser â phosib i'r ddau yn arwain at y gêm."

Cuthbert neu Evans

Cadarnhaodd McBryde y gallai asgellwr y Gleision, Alex Cuthbert neu Steff Evans o'r Scarlets gymryd lle North yn y tîm os nad yw'r gŵr o Fôn yn gwella mewn pryd.

Sam Davies, a ddaeth ymlaen fel eilydd yn Rhufain, fyddai'r ffefryn i gymryd lle Biggar os nad yw'r maswr yn holliach.

Dyw hi ddim yn debygol y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud nes ychydig oriau cyn y gêm, gyda'r gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 16:50 brynhawn Sadwrn.