Dyn wedi marw mewn digwyddiad ar fferm yn Sir Ddinbych

Huw Jones Image copyright Llun teulu

Mae dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad ar fferm yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun.

Y gred yw bod dyn yn ei 60au, sydd wedi'i enwi'n lleol fel Huw Smith, wedi cael ei daro gan gerbyd Land Rover yr oedd yn ei atgyweirio.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi eu galw am 17:39 ddydd Mercher i'r digwyddiad, er mwyn cynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Dydyn ni ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus a bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i'r crwner."