Casnewydd 0-0 Doncaster

bathodyn Casnewydd Image copyright Getty Images

Di-sgor oedd hi yn y gêm rhwng Doncaster ar frig Adran Dau, a Chasnewydd sydd ar y gwaelod.

Roedd cyfle i'r ddau dîm sicrhau'r tri phwynt, gyda Chasnewydd yn colli cyfle i godi o'r gwaelodion am y tro cyntaf ers mis Tachwedd.

Fe allai'r Alltudion fod wedi mynd ar y blaen ar ôl dim ond 90 eiliad, dim ond i Ian Lawlor arbed yn wych oddi wrth beniad David Piper.

Ar ôl hynny bu'n rhaid i Joe Day, gôl-geidwad Casnewydd fod ar ei orau i rwystro ymdrech John Marquis.