Glasgow 14-26 Scarlets

Glasgow Warriors' Brian Alainu'uese is held up by the Scarlets defence Image copyright SNS

Fe wnaeth y Scarlets godi uwchben Glasgow yn y Pro12 gyda buddugoliaeth haeddianol yn Scotstoun.

Glasgow aeth ar y blaen ar ôl i Pat McArthur groesi yn dilyn sgarmes rydd.

Tarodd y Scarlets yn ôl gyda chais yr un i Tom Williams ac yna James Davies.

Roedd gan yr ymwelwyr fantais o naw pwynt ar ôl yr egwyl, ac fe wnaeth amddiffyn cryf a bod yn gyntaf i'r bêl rydd sicrhau fod y fantais yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.