Zebre 10-40 Gweilch

Dan Evans Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Croesodd Dan Evans y llinell dair gwaith

Fe wnaeth y canolwr Dan Evans groesi dair gwaith wrth i'r Gweilch sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Zebre yn y Pro12.

Er hyn, y tîm cartref oedd gryfaf ar ddechrau'r gêm, a nhw aeth ar y blaen o 10-0 diolch i gais Tommaso Boni a chicio Guglielmo Palazzani.

Daeth cais Ashley Beck â'r Gweilch yn ôl i'r gêm, ac yna wedi'r egwyl roedd yna ddau gais cyflym i Dan Evans.

Croesodd Evans eto i sicrhau'r pwynt bonws, gyda Dafydd Howells yn sgorio cais hwyr.

Hon oedd chweched fuddugoliaeth y Gweilch yn olynol yn y Pro12.