Munster 45-17 Dreigiau

Ronan O'Mahony yn sgorio Image copyright Inpho

Fe sicrhaodd Munster fuddugoliaeth gyfforddus dros y Dreigiau nos Wener i gadw'u lle ar frig cynghrair y Pro12.

Roedd y Gwyddelod 31-10 ar y blaen ar yr egwyl diolch i ddwy gais gan Jacob Taute, un gan Andrew Conway ac un cais gosb, gyda Rhys Buckley yn tirio dros yr ymwelwyr.

Rhoddodd Elliott Dee obaith i'r Dreigiau ar ôl croesi am eu hail gais yn gynnar yn yr ail hanner.

Ond seliwyd y fuddugoliaeth gyda cheisiau gan Dave Kilcoyne a Ronan O'Mahony, gan adael Gwŷr Gwent yn 10fed yn y tabl.