Merched Cymru 0-63 Merched Lloegr

Danielle Waterman Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Danielle Waterman dair cais i Loegr

Cafodd tîm rygbi merched Cymru grasfa gan Loegr yn eu gornest Chwe Gwlad ar Barc yr Arfau ddydd Sadwrn.

Doedd gan garfan Rowland Phillips ddim ymateb i chwarae corfforol a rhedeg chwim y Saeson, ac er gwaethaf pwysau hwyr lwyddon nhw ddim i sgorio unrhyw bwyntiau.

Roedd Lloegr dair cais ar y blaen o fewn 11 munud diolch i Amy Wilson Hardy, Amy Cokayne a Natasha Hunt, gydag Emily Scarratt yn llwydo gyda dau drosiad.

Ychwanegodd Lydia Thompson, Katy Mclean a'r capten Sarah Hunter ragor o geisiau yn yr hanner cyntaf wrth i'r Saeson reoli'r gêm yn llwyr.

11 cais

Dechreuodd yr ail hanner yn yr un modd gydag ail gais i Thompson ac yna dwy i'r cefnwr Danielle Waterman.

Gydag ugain munud i fynd tiriodd Hardy ar gyfer ei hail gais, a degfed y prynhawn i Loegr, cyn i Thompson gwblhau ei hat-tric.

Daeth Cymru o fewn modfeddi i'r llinell gais wrth iddyn nhw bwyso am sgôr gyda deng munud i fynd, ond ceisio ei chwarae hi'n llydan collwyd y bêl ymlaen.

Hon oedd colled fwyaf tîm merched Cymru ers 2005, pan lwyddodd Lloegr eu trechu nhw o 81-0.