Leeds 0-2 Caerdydd

Kenneth Zohore Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Seliwyd y fuddugoliaeth gan Kenneth Zohore

Roedd goliau yn yr ail hanner gan Sean Morrison a Kenneth Zohore yn ddigon i gipio buddugoliaeth i Gaerdydd oddi cartref yn Leeds.

Mewn hanner cyntaf di-fflach fe aeth Greg Halford yn agos i Gaerdydd gyda pheniad o gic rydd Craig Noone, tra bod Allan McGregor wedi arbed cic rydd Chris Wood ar y pen arall.

Ar ôl 52 munud fe aeth yr Adar Gleision ar y blaen wrth i'r capten Morrison benio cic rydd Noone i gefn y rhwyd.

Dyblwyd y fantais gydag ugain munud i fynd wrth i Aron Gunnarsson greu cyfle i Zohore rwydo.

Cafodd Liam Bridcutt gerdyn coch hwyr i Leeds, wrth i Gaerdydd sicrhau tri phwynt gwerthfawr yn eu hymgais nhw i ddringo i hanner uchaf y tabl.