Dover 1-1 Wrecsam

Dean Keates Image copyright Getty Images
Image caption Mae tîm Dean Keates yn parhau yn 10fed yn y tabl yn dilyn y gêm gyfartal

Cipiodd Wrecsam bwynt hwyr yn erbyn Dover i ymestyn eu rhediad diguro yn y Gynghrair Genedlaethol i chwe gêm.

Chwaraewr canol cae Dover, Nicky Deverdics oedd y bygythiad mwyaf i Wrecsam yn yr hanner cyntaf, ond ar yr egwyl roedd hi'n parhau'n ddi-sgôr.

Daeth y gôl i'r tîm cartref ychydig wedi awr o chwarae, wrth i Joe Healy brocio'r bêl i'r rhwyd ar ôl i ergyd Deverdics gael ei arbed gan Chris Dunn.

Ond gyda deng munud i fynd roedd y Dreigiau yn gyfartal wrth i groesiad John Rooney, oedd newydd ddod ymlaen fel eilydd, ddod o hyd i Jordan White a rwydodd ar yr ail gynnig.