Merched mewn Gwyddoniaeth: Sharon Huws
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Merched mewn Gwyddoniaeth: Dr Sharon Huws

12 Chwefror 2017 Diweddarwyd 12:55 GMT

Dros y penwythnos bu sawl digwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dathlu Rôl Merched ym Maes y Gwyddorau.

Ond yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dynion dal yn fwy tebygol na merched o ennill graddau a swyddi uwch mewn gwyddoniaeth.

Dr Sharon Huws, darlithydd gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd yn trafod a oes 'na arwydd fod y bwlch yn cau.