Gleision 13-19 Connacht

Nick Williams a Sean O'Brien Image copyright Getty Images

Colli oedd hanes y Gleision gartref yn erbyn Connacht diolch i gôl adlam hwyr gan Tiernan O'Halloran.

Roedd y Gleision 13-7 ar y blaen ar yr egwyl, ond fe fethon nhw â sgorio unrhyw bwyntiau yn yr ail hanner wrth i gicio cywir y Gwyddelod sicrhau buddugoliaeth.

Fe aeth i tîm cartref ar y blaen diolch i ddwy gic gosb gan Gareth Anscombe, cyn i Nick Williams sgorio cais agoriadol y gêm.

Ond cyn yr egwyl fe darodd Connacht yn ôl, gyda chais Matt Healy yn cau'r bwlch i chwe phwynt unwaith eto.

Ciciau hwyr

Roedd Connacht yn hafal gydag ugain munud wrth i John Cooney lwyddo gyda dwy gic gosb.

Methodd Healy gyfle i sgorio'i ail gais o'r prynhawn pan ollyngodd y bêl o fewn cyrraedd i'r llinell, cyn i ymgais am gôl adlam gan Jack Carty hedfan heibio i'r pyst.

Ond fe lwyddodd O'Halloran gyda'i gôl adlam yntau, cyn Craig Ronaldson i selio'r fuddugoliaeth gyda chic gosb.

Mae'r Gleision yn aros yn seithfed yn nhabl y Pro12, ddeg pwynt y tu ôl i Munster sydd yn y chweched safle.