Rhybudd melyn o wyntoedd cryfion yn y gorllewin

tywydd

Mae rhybudd melyn o wyntoedd cryfion wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o orllewin Cymru ddydd Llun.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai gyrraedd 75 milltir yr awr mewn rhai rhannau.

"Mae'n debygol y bydd rhywfaint o drafferthion i deithwyr, ar y ffyrdd ac ar y llongau," meddai llefarydd.

Mae'r rhybudd yn para o 03:00 fore ddydd Llun nes 22:00 nos Lun, ac yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Ceredigion, Powys, Sir Benfro a Sir Gâr.