Abertawe 2-0 Caerlŷr

martin olsson Image copyright Reuters
Image caption Sicrhaodd ergyd Olsson fantais o ddwy gôl i Abertawe ar yr egwyl

Mae Abertawe wedi dringo'n bellach o waelodion y tabl yn dilyn buddugoliaeth werthfawr dros Gaerlŷr yn Stadiwm Liberty.

Roedd y ddau dîm wedi targedu'r ornest fel un yr oedd yn rhaid ei hennill, wrth iddyn nhw frwydro i osgoi cael eu llusgo mewn i'r tri safle isaf yn y gynghrair.

Bu'n rhaid i'r Elyrch wneud newid cynnar i'w tîm yn dilyn anaf i Nathan Dyer yn y munudau cyntaf, gyda Wayne Routledge yn dod ymlaen ar yr asgell yn ei le.

Ond unwaith iddyn nhw oroesi pwysau cynnar gan Gaerlŷr dechreuodd y tîm cartref greu cyfleoedd, ac fe aethon nhw ar y blaen wedi 37 munud o ergyd Alfie Mawson.

Llechen lân

Dyblwyd y fantais ar drothwy hanner amser wrth i Fernando Llorente a Gylfi Sigurdsson gyfuno, cyn i'r gŵr o Wlad yr Ia ei gosod hi i Martin Olsson ergydio heibio i'r golwr.

Penderfynodd rheolwr Caerlŷr, Claudio Ranieri ddod â dau eilydd ymlaen ar yr egwyl a thoc wedi awr o chwarae fe fethodd un o'r rheiny, Islam Slimani, gyfle un yn erbyn un wrth i'r golwr Lukasz Fabianski arbed yn wych.

Parhau i bwyso wnaeth yr ymwelwyr, ond fe arhosodd amddiffyn Abertawe yn gadarn a chadw llechen lân am y tro cyntaf ers dros ddeufis.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Abertawe i'r 15fed safle yn yr Uwch Gynghrair, bedwar pwynt uwchlaw safleoedd y cwymp.