Darganfod corff dynes ar draeth y Newry yng Nghaergybi

caergybi Image copyright Google

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod corff wedi ei ddarganfod ar draeth ar Ynys Môn.

Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw i draeth y Newry, Caergybi wedi i gorff dynes gael ei ganfod ychydig wedi 22:50 nos Sul.

Er nad yw'r ddynes wedi ei hadnabod yn ffurfiol, mae'r heddlu yn credu iddi fod yn lleol i'r ardal.

Dywedodd y Ditectif Jason Higgins o Swyddfa'r Heddlu yn Llangefni: "Rydym yn y broses o gysylltu a rhoi gwybod i deulu'r ddynes, ac rydym yn cydymdeimlo â nhw yn y cyfnod anodd hwn."

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd, ac mae'r crwner yn ymwybodol o'r datblygiad.