Corff Caergybi: Dynes wedi ei henwi'n lleol

caergybi Image copyright Google

Mae dynes y cafwyd hyd i'w chorff ger traeth ar Ynys Môn nos Sul wedi ei henwi'n lleol fel Lisa Williams.

Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw i draeth Newry wedi i'r corff gael ei ganfod ychydig wedi 22:50 nos Sul.

Y gred yw ei bod yn lleol i'r ardal.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Straeon perthnasol