Stori ci chwilio'r fyddin i ysbrydoli darllenwyr

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Angharad Sinclair o'r Cyngor Llyfrau sy'n sôn am hanes "ysbrydoledig" Vidar

Fe fydd hanes ci chwilio sy'n ofni sŵn mawr yn dilyn cyfnod gyda'r fyddin yn cael ei ddefnyddio i ysbrydoli pobl sy'n cael trafferth darllen.

Roedd Vidar, ci Malinois Belgaidd pum mlwydd oed, yn arfer chwilio am arfau a bomiau ar ochr ffyrdd gyda'r fyddin yn nhalaith Helmand, Afghanistan.

Fe wasanaethodd am ddwy flynedd cyn ymddeol oherwydd ei fod yn ofni'r sŵn.

Ar ôl ei fabwysiadu, fe ysgrifennodd Angie McDonnell o Fro Morgannwg - sy'n feddyg yn y fyddin - lyfr er mwyn trafod profiad Vidar.

Mae'r gyfrol Gun Shy yn cael ei lansio ddydd Mawrth fel rhan o brosiect Stori Sydyn y Cyngor Llyfrau.

'Arwyr go iawn'

Gun Shy yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio yn y fyddin i ddisgrifio cŵn sy'n ofni synau mawr - a bydd y llyfr yn targedu pobl sy'n cael trafferth darllen.

Yn ôl Ms McDonnell y cŵn chwilio yw'r "arwyr go iawn, sy'n gwneud gwaith nifer o filwyr".

Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Ms McDonnell yn rhan o Gatrawd Meddygol 3

Daeth Ms McDonnell o hyd i Vidar yn crynu mewn cwt.

"Doeddwn i ddim yn gallu diodde' meddwl amdano'n cael ei adael yn y cwt," meddai.

"Mae'n gi mor fawr ac ofnus, roeddwn i'n poeni na fyddai neb eisiau ei gymryd, ac y byddai yn cael ei anghofio ac y gallai gael ei ddifa."

Bydd Gun Shy yn cael ei lansio yn y Senedd ddydd Mawrth.