Gwers iwcalele Colin
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Dysgu gwers i Colin

14 Chwefror 2017 Diweddarwyd 11:32 GMT

Noson San Ffolant ar Pobol y Cwm, wnaeth Colin geisio swyno Britt ar yr iwcalele gyda chân roedd wedi cyfansoddi ei hun.

Ond fel 'ni gyd yn ymwybodol, 'dyw realiti ddim o hyd yn dilyn straeon operâu sebon, ac roedd gan y cynhyrchwyr un broblem amlwg - doedd yr actor Jonathan Nefydd, sy'n chwarae rhan Colin, erioed wedi canu'r iwcalele.

Mei Gwynedd, gynt o'r Big Leaves a Sibrydion, gafodd y profiad unigryw o ddysgu 'Colin' sut oedd ennill calon Britt (Donna Edwards) drwy hud a lledrith yr iwcalele. Tasg oedd yn eithaf pleserus yn ôl Mei.