Brexit: Pryder am broblemau recriwtio'r GIG

Hospital bed Image copyright Thinkstock
Image caption Fe fydd y Pwyllgor Iechyd yn derbyn mwy o dystiolaeth ddydd Iau

Mae Brexit yn bygwth gwaethygu problemau recriwtio yn y gwasanaeth iechyd, yn ôl tystiolaeth gan gyrff meddygol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywed Conffederasiwn NHS Cymru fod yna recriwtio 'sylweddol' o dramor, ac na ddylid cyfyngu ar hyn.

Corff arall sydd wedi yn cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor iechyd y Cynulliad yw'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng, sy'n rhybuddio fod y gwymp yng ngwerth y bunt yn gwneud y DU yn lleoliad llai deniadol i feddygon o dramor.

Dywed y Coleg y byddai'r gyfundrefn yn "ei chael yn anodd i weithio yn iawn" heb fod mwy o staff o dramor yn cael eu denu.

Fe wnaeth y pwyllgor iechyd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar recriwtio i'r gwasanaeth iechyd yn 2016, a dydd Iau fe fyddant yn derbyn mwy o dystiolaeth.

Gweithwyr tramor

Mae Conffederasiwn NHS Cymru, sy'n cynrychioli byrddau iechyd, wedi galw am gynllunio hir dymor wrth recriwtio er mwyn cwrdd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.

Maen nhw'n rhybuddio fod y gwasanaeth iechyd yn y DU yn "dibynnu'n helaeth' ar weithwyr o'r Undeb Ewropeaidd ac o wledydd eraill.

Yn ôl ffigyrau ar gyfer Mawrth 2016 roedd 30% o ddoctoriaid y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dod o dramor - o'r rhain roedd 8% o'r UE.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae 30% o ddoctoriaid y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dod o dramor

Honnai'r Conffederasiwn yn dilyn Brexit "y gallai fod yn anodd cynnal rhai gwasanaethau oherwydd y potensial y bydd y broblem o recriwtio yn gwaethygu."

"Mae dibyniaeth ar weithwyr o'r UE wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, mae'n debyg oherwydd polisïau mwy llym wrth geisio rheoli mewnfudo o wledydd eraill," meddai'r Conffederasiwn.

Maen nhw'n galw am sicrhau bod y DU yn gallu parhau i recriwtio o'r UE a thu hwnt, tra ar yr un pryd yn ceisio cynyddu'r cyflenwad o ddoctoriaid cynhenid.

Mae Deoniaeth Cymru, sy'n gyfrifol am hyfforddi meddygol, wedi rhybuddio am yr her maen nhw'n wynebu wrth geisio cyflenwi anghenion ysbytai Cymru.

Daw rhybudd y bod prinder o ymgeiswyr ar gyfer meysydd penodol, gan gynnwys meddygon teulu, seiciatryddiaeth a meddygaeth brys.

Hyfforddi myfyrwyr y Gymru

Ar hyn o bryd, mae dau o bob tri o fyfyrwyr Cymru, yn aros yng Nghymru ar ôl cymhwyso yn ôl y Ddeoniaeth.

Ond maen nhw'n rhybuddio y gallai Cymru ddioddef oherwydd ymdrech gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr i geisio denu myfyrwyr o Gymru pe bai llai o feddygon tramor ar gael yn dilyn Brexit.

Mae'r Deoniaeth yn gobeithio y bydd rheolau mewnfudo yn parhau i ganiatáu i ddoctoriaid o'r UE aros neu gael mynediad i 'r DU yn dilyn Brexit.

Dywed y Ddeoniaeth: "Pe na bai ni'n gallu recriwtio a chadw doctoriaid yr UE yng Nghymru fe fydd angen i ni chwilio mewn rhannau eraill o'r byd, neu hyfforddi mwy o fyfyrwyr o Gymru a'u hannog nhw i hyfforddi yng Nghymru ar ôl graddio drwy gynnig pecynnau ariannol ar gyfer cyfnod o amser penodol."

Dywed y Coleg Brenhinol Gwasanaethau Meddygol Brys fod yna brinder o staff hŷn a gradd ganolog mewn adrannau brys.

Maen nhw'n amcangyfrif fod angen o leiaf 100 o ymgynghorwyr meddygol brys yn ystod y chwe mlynedd nesaf.

Ond gyda disgwyl i hyd at 20 o'r 65 o ymgynghorwyr presennol ymddeol cyn hir, maen nhw'n rhybuddio y bydd yn rhaid i'r byrddau iechyd i o leiaf ddyblu'r niferoedd presennol er mwyn cwrdd â'r galw.