Pryder am effaith cyfraddau busnes ar siopau trefi

siopau'r stryd fawr

Mae arbenigwyr eiddo'n rhybuddio y gallai rhagor o siopau stryd fawr mewn ardaloedd gwledig gau oherwydd cynnydd mewn cyfraddau busnes ym mis Ebrill.

Ni chafodd gwerth £52m o gyfraddau busnes ddim o'u talu yng Nghymru y llynedd, ac mae yna rybudd nawr y gallai pethau fynd yn waeth.

Cyfraddau busnes yw'r trethi y mae perchnogion busnes yn eu talu ar adeiladau fel siopau, swyddfeydd a ffatrïoedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cyfran fechan yw'r swm na chafodd ei dalu o'i gymharu a'r £943m a gafodd ei gasglu.

Sefyllfa'n gwaethygu?

Mae Helen Edwards o gwmni Gerald Eve, sy'n ymgynghorwyr rhyngwladol ar eiddo, yn dweud y gallai'r cynnydd mewn trethi sydd ddim yn cael eu talu godi lawer yn uwch na'r £20m dros y 10 mlynedd diwethaf: "Mae'r potensial yna iddo gynyddu.

"Os oedd pobl yn ei chael hi'n anodd o'r blaen, does yna ddim byd i awgrymu fod unrhyw beth yn mynd i fod yn haws iddyn nhw."

Mae rhai busnesau'n wynebu cynnydd mor fawr fel eu bod yn rhagweld y byddan nhw'n gorfod cau.

Yn ôl Ross Maclean, sy'n berchen ar siop lyfrau yn y Bontfaen ym Mro Morgannwg, mae hi bron yn anochel y bydd yn cau oherwydd bod y raddfa'n cynyddu 273% mewn termau real.

Image caption Mae Ross Maclean yn rhagweld y bydd yn rhaid iddo gau ei siop oherwydd y cynnydd mewn cyfraddau busnes

Mae'n dweud nad yw'n gwybod pa gymorth ariannol sydd ar gael iddo: "Mae hynny [y cynnydd] yn mynd i fod tua £400 - £500 o'i gymharu â'r £115 dwi'n dalu bob mis.

"Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i hyfywedd y busnes pan 'dy chi'n talu swm enfawr mewn cyfraddau busnes.

"Oes gwerth i mi aros yn agored? Dwi ddim yn ennill llawer nawr ond mae'n ddigon i oroesi gyda fy ngwraig a'm dau blentyn, ond mae'n bosib na fydda i'n gallu fforddio parhau."

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos na chafodd £52m o gyfraddau busnes eu talu yng Nghymru yn 2015-2016, cynnydd o bron i £20m mewn 10 mlynedd.

Caledu

Dywedodd Heledd Edwards fod y cynnydd yn y cyfraddau sydd ddim yn cael eu talu yn dod ar adeg o galedi i fusnesau, ac y gallai busnesau gwledig fod mewn sefyllfa debyg wedi 1 Ebrill.

"Os yw defnyddio siop ar y stryd fawr yn dod yn ddrud iawn, gallech, fe allech chi weld rhagor o adeiladau gwag ar y stryd fawr, hyd yn oed mwy nag yr ydyn ni'n weld yn barod.

"Mae gyda ni nifer cyfyngedig o ganolfannau siopa mawr o'i gymharu â'r ochr arall i'r bont, mae ein prif strydoedd ni wedi bod yn ganolbwynt i'n trefi ac fe fyddai'n siomedig i weld hynny'n newid."

Tra bo disgwyl i gyfraddau godi mewn ardaloedd gwledig ar 1 Ebrill, y disgwyl yw y byddan nhw'n gostwng yn y rhan fwyaf o ddinasoedd Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn darparu £20m yn ychwanegol i helpu busnesau bach, yn ychwanegol i'r rhyddhad ardrethu, a bod £10m yn cael ei dargedu at brif strydoedd trefi.

Ychwanegodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i helpu busnesau, ond bod "yr amserlen wedi bod yn heriol".

"Rydym yn gobeithio datblygu cynllun i dargedu a darparu cefnogaeth lle mae ei angen, ond sydd hefyd mor syml â phosib i'w gyflwyno", meddai llefarydd.