Casnewydd 0-0 Grimsby

Casnewydd Grimsby Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chwaraewr canol cae Casnewydd, Josh Sheehan yn cael ei herio gan Craig Disley o Grimsby

Mae Casnewydd yn parhau ar waelod tabl yr Ail Adran er iddyn nhw gael gêm gyfartal ddi-sgôr gartref yn erbyn Grimsby.

Roedd cyfleon i'r ddwy ochr yn yr hanner cyntaf, gyda Danny Andrew'n taro'r postyn o gic rydd i'r ymwelwyr, cyn iddi cael ei harbed gan Joe Day.

Ychydig o gyfleoedd ddaeth yn yr ail hanner.

Er nad yw Casnewydd wedi colli'i chwe gêm ddiwetha, maen nhw'n dal ar waelod y tabl ac angen sicrhau pedwar pwynt i fod yn ddiogel.î