Angen pwyntiau gwefru 'cyflym' yng nghefn gwlad

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Keith Jones o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn esbonio bod angen mwy o bwyntiau gwefru yng Nghymru

Mae 'na alwadau ar i Lywodraeth Cymru helpu cyflwyno rhwydwaith o bwyntiau gwefru "cyflym" ar gyfer ceir trydan drwy gefn gwlad Cymru.

Ar hyn o bryd dim ond ar hyd yr A55 a'r M4 mae 'na bwyntiau ar gyfer defnydd cyhoeddus.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cysgodol dros yr Economi, y Ceidwadwr Russell George, mae angen i weinidogion gydnabod y bydd angen "peth nawdd a chymorth ariannol" i wella'r sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi'u hymrwymo i helpu'r sector ceir trydan i ffynnu yng Nghymru.

Mae'r ffigyrau diweddara'n dangos bod nifer y ceir trydan yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd 'na 1725 o geir trydan neu hybrid ar ffyrdd Cymru rhwng Gorffennaf a Medi 2016, yn ôl ffigyrau'r DVLA, o'i gymharu a dim ond 70 yn ystod yr un cyfnod yn 2012.

Image caption Mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen mwy o bwyntiau gwefru ar draws Cymru gyfan

Mae gweinidogion Cymreig wedi datgan eu bod nhw am weld defnydd ceir trydan yn dod yn beth llawer mwy arferol, fel rhan o ymdrechion i dorri allyriadau carbon, taclo newid hinsawdd a llygredd aer.

Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu bod prinder isadeiledd gwefru yng Nghymru yn arafu unrhyw dwf yn ddifrifol.

Dywedodd Richard Burrows, sy'n rhedeg busnes darparu offer plymio a gwresogi yn y Drenewydd, Powys, ei fod e'n ei chael hi'n "anodd iawn" teithio pellteroedd hir yn ei fan drydan.

Fe brynodd y cerbyd er mwyn ceisio lleihau costau busnes, ond mae nawr yn ailystyried a ydy'r fan yn opsiwn gwirioneddol ar gyfer natur ei waith.

"Dwi'n credu bod Cymru wedi bod yn araf iawn yn mabwysiadu cerbydau trydan, yn wahanol i Loegr a'r Alban lle mae lot o gynghorau lleol wedi cymryd camau cadarnhaol."

"Yn fan hyn mae na bwyntiau gwefru ar dop a gwaelod y wlad, ond drwy'r canolbarth mae'n anodd iawn mynd unrhywle."

Mae Mr Burrows bellach wedi gosod pwynt gwefru canolig-o-ran-cryfder yn ymyl ei fusnes ar Stad Ddiwydiannol Mochdre, sy'n ei alluogi i wefru ei fan mewn oddeutu 4 awr.

Image caption Mae Russell George eisiau i'r llywodraeth fuddsoddi arian fel bod modd i fwy o bobl ddefnyddio ceir trydan

Byddai pwynt gwefru "cyflym" yn gwneud y gwaith mewn oddeutu 20 munud - "gwahaniaeth mawr" fel yr eglurodd Mr Burrows.

"Yn amlwg does 'na ddim isadeiledd gwefru yn lleol felly'r peth synhwyrol oedd i osod un ein hunain.

"Yn ddelfrydol, serch hynny, mae angen rhwydwaith o bwyntiau cyflym yn y canolbarth fel bod defnydd ceir trydanol yn gallu tyfu."

Nôl yn 2015, fe gyflwynodd grŵp o arbenigwyr restr o argymhellion ar gais Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyflwyno pwyntiau gwefru yn holl adeiladau'r llywodraeth ac annog cynghorau lleol i wneud yr un fath.

Dywedodd Russell George, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr dros Maldwyn, ei bod hi nawr yn amser i Lywodraeth Cymru weithredu ar gasgliadau'r adroddiad: "Ar y funud mae'n amhosib i chi deithio o ogledd i dde Cymru mewn car trydan.

"A'r trwbl yw ei bod hi'n sefyllfa 'iâr ac wy'- mae pobl eisiau defnyddio ceir trydan ond achos nad yw'r isadeiledd yno dy'n nhw ddim yn medru - a bydd yr isadeiledd ddim yn cael ei adeiladu tan fod mwy o alw am geir trydan."

"Hoffen i weld y llywodraeth yn cydnabod bod angen peth nawdd a chymorth ariannol ar gyfer hyn.

"Os yw pawb yng Nghymru i wneud defnydd teilwng o gerbydau trydan yna mae'n rhaid i chi gael pwyntiau gwefru mewn ardaloedd gwledig hefyd".

Image caption Rhwng Gorffennaf a Medi y llynedd roedd 1725 o geir trydan neu hybrid ar ein ffyrdd

Un sefydliad sy'n ceisio gwella'r rhwydwaith o bwyntiau gwefru yng nghefn gwlad yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae'r corff wedi gosod bron i 40 o bwyntiau araf neu ganolif-o-ran-cryfder ger eu hadeiladau yng Nghymru ac mae na gynlluniau i osod 30 yn fwy dros yr 18 mis nesa.

Dywedodd Keith Jones, Ymgynghorydd Amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei fod yn gwneud synwyr amgylcheddol a synwyr busnes, gydag ymwelwyr yn treulio amser yn ymweld ag adeiladau'r elusen tra'n aros i'w ceir i wefru.

"Dwi'n credu bod angen i ni fel gwlad edrych ar y sefyllfa a gofyn ble hoffen ni fod o fewn deg mlynedd. A beth sydd angen gwneud i sicrhau bod hynny'n digwydd?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi ymrwymo i chwilio am gyfleoedd i ostwng allyriadau o drafnidiaeth a chynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i'r sector cerbydau carbon isel i dyfu a chreu swyddi yng Nghymru."

"Ry'n ni'n ystyried argymhellion y Grŵp llywio arbenigol ar Gerbydau Carbon Isel fel rhan o'r cyd-destun ehanganch o'n cyfrifoldebau i leihau allyriadau carbon dan Ddeddf Amgylchedd Cymru."