Pryder am effaith colli cae clwb pêl-droed
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Swyddog yn pryderu am effaith colli cae clwb pêl-droed

15 Chwefror 2017 Diweddarwyd 12:11 GMT

Mae swyddog clwb pêl-droed yng Ngheredigion yn dweud y byddai colli eu cae chwarae yn "ergyd anferth".

Roedd Evan Rowlands o CPD Tal-y-bont yn siarad wedi i'w cytundeb gyda pherchennog y maes, Ioan Beechey, ddod i ben.

Mae Mr Beechey yn dweud ei fod wedi cael digon o'r cae yn cael ei "amharchu", a'i fod wedi rhoi digon o amser i'r clwb ddod o hyd i gartref newydd.