Gwrthdrawiad Trefyclo: Cyhoeddi enw dyn 97 oed fu farw

Trefyclo Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd y Bont yn Nhrefyclo am tua 10:25 fore Iau

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn 97 oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad gyda char yn Nhrefyclo, Powys fore Iau.

Bu farw Richard Wood pan gafodd ei daro gan gerbyd ar Stryd y Bont am tua 10:25.

Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys ambiwlans awyr eu galw, ac fe gafodd ffordd yr A4113 ei chau i'r ddau gyfeiriad.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i apelio ar dystion i gysylltu â'r llu ar 101.