Llydawyr yn dathlu Gŵyl Ddewi 'i gynnal perthynas'

  • 1 Mawrth 2017
Cymru Llydaw Image copyright Bro Gozh Ma Zadoù

Tra bydd gorymdeithiau a digwyddiadau'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru i ddathlu Gŵyl Ddewi'r wythnos hon, bydd Llydawyr hefyd yn ymuno yn y dathliadau mewn gŵyl arbennig.

Bydd Gouel Divi 2017: Fete Nationale Galloise rhwng 27 Chwefror a 4 Mawrth yn cynnwys arddangosfa ar Gymru, dangosiad o'r ffilm How Green Was my Valley, gwledd a chynhadledd i drafod sefydliadau Cymreig.

Wyth pwyllgor gefeillio yn ardal Kemper sydd wedi dod at ei gilydd i drefnu'r ŵyl, gan gynnwys pwyllgorau Plogoneg a Llandysul, Brieg a Rhuthun, Ploveilh a Chrymych a Ploneour Lanwern a Llandybïe.

"Dyma'r ŵyl gyntaf i ni ei threfnu," meddai Yann Bêr Rivalin, un o'r trefnwyr, "ac rydym yn gobeithio ei chynnal eto'r flwyddyn nesaf."

Image copyright Gouel Divi
Image caption Rhai o'r digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal fel rhan o Gouel Divi 2017

Gyda'r Gymraeg a'r Llydaweg yn chwaer ieithoedd, mae'r ŵyl yn cael ei gweld fel ffordd arall o gynnal y cysylltiad sydd wedi datblygu rhwng Cymru a Llydaw.

"Un o amcanion y pwyllgorau gefeillio yw codi ymwybyddiaeth am Gymru ymhlith Llydawyr, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud hynny," medd Mr Rivalin.

"Mae dros 40 o bwyllgorau gefeillio gan Gymru a Llydaw. Cafodd y rhai yn ardal Kemper eu creu yn niwedd yr '80au a dechrau'r '90au, ond mae'r genhedlaeth a oedd yn gyfrifol am eu sefydlu yn mynd yn hŷn, a dydy'r genhedlaeth iau ddim yn gweld yr angen am bwyllgorau a theithiau cyfnewidiol.

"Maen nhw'n poeni fwy am fywyd bob dydd, oherwydd anhawsterau economaidd, ac mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb yn eu bywydau teuluol na'u bywydau cymdeithasol.

"Felly, rydyn ni'n edrych am ffyrdd newydd o gynnal y berthynas."

Image copyright Ronan Larvor
Image caption O'r chwith i'r dde: Yann Bêr Rivalin, Gwenaël Le Goanvic, Alain Kerouedan ac Alain Hémon yn dangos eu cefnogaeth i dîm pêl-droed Cymru yn ystod pencampwriaeth Euro 2016

'O'r un gwreiddyn'

Mae Mr Rivalin yn meddwl bod cynnal y cysylltiadau'n bwysig: "Mae'r Cymry a'r Llydawyr o'r un gwreiddyn, mae'n hieithoedd ni'n debyg, mae gennym ni broblemau diwylliannol, economaidd a gwleidyddol tebyg, ond rydyn ni'n ddigon gwahanol i wneud darganfod diwylliannau'n gilydd yn ddiddorol."

Y llynedd, cafodd y cysylltiadau eu hatgyfnerthu, pan ddewisodd tîm pêl-droed Cymru aros mewn gwesty yn Dinard yn Llydaw yn ystod pencampwriaeth Euro 2016.

Tra'n aros yno, bu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn defnyddio'r Llydaweg yn ogystal â'r Gymraeg, y Saesneg a'r Ffrangeg yn ei chyhoeddiadau - cam a gafodd ei werthfawrogi gan ymgyrchwyr a chefnogwyr yr iaith yno.

"Roedd yn golygu llawer i ni fod yr iaith yn cael ei defnyddio a'i gweld," meddai Mikael Baudu, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm yn Llydaw.

Image caption Plant Llydaw'n croesawu tîm pêl-droed Cymru i Dinard yn haf 2016

Yn ôl Mr Baudu, mae'r ffaith fod Hen Wlad Fy Nhadau wedi ei chanu ar ddechrau gemau Cymru yn y bencampwriaeth hefyd wedi taro nodyn gyda'r Llydawyr.

Rai blynyddoedd yn ôl, fe gynhyrchodd Mr Baudu ffilm yn olrhain hanes anthem genedlaethol Llydaw, Bro Gozh Ma Zadoù.

Er nad yw'n gyfeithiad gair-am-air o Hen Wlad Fy Nhadau, mae'r anthem yn cael ei chanu ar yr un dôn - tôn a gyfansoddwyd gan James James o Bontypridd ym 1856, i eiriau ei dad, Evan James.

Cafodd yr anthem ei throsglwyddo o Gymru i Lydaw a Chernyw ddiwedd y 19eg ganrif drwy Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Cafodd y geiriau sy'n cael eu canu heddiw eu cyfieithu gan François Taldir-Jaffrennou, a'i dewis yn "gân genedlaethol" Llydaw ym 1903, gan banel o Undeb Rhanbarthol Llydaw mewn cynhadledd yn Lesneven.

Image copyright Bro Gozh Ma Zadoù
Image caption Pennill cyntaf a chytgan Bro Gozh Ma Zadoù

Dros y degawdau, serch hynny, mae ymwybyddiaeth Llydawyr o'u hanthem wedi pylu.

"Tan yn ddiweddar, roedd siaradwyr Llydaweg ac ymgyrchwyr yn ymwybodol ohoni, ond ddim pawb", meddai Mikael Baudu.

Dyna arweiniodd at ymdrechion i godi ymwybyddiaeth. Yn 2004, cafodd gŵyl ei threfnu yn Lesneven i ddathlu canrif ers mabwysiadu'r anthem.

Mae cymdeithas wedi ei sefydlu hefyd: Poellgor Bro Gozh Ma Zadoù.

"Rydym yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth, drwy geisio annog canu'r anthem mewn digwyddiadau mawr yn Llydaw", medd cadeirydd y pwyllgor, Jacques-Yves Le Touze.

"Mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o'r anthem erbyn hyn, diolch hefyd i ddigwyddiadau chwaraeon."

Image copyright Bro Gozh Ma Zadoù
Image caption Cefnogwyr timau pêl-droed Guingamp a Rennes yn rownd derfynol Cwpan Ffrainc yn 2009

Un garreg filltir bwysig oedd canu'r anthem yn rownd derfynol Cwpan Pêl-droed Ffrainc rhwng dau dîm o Lydaw - Guingamp a Rennes - ym Mharis yn 2009.

Fel rhan arall o weithgareddau'r pwyllgor, mae gwobr yn cael ei rhoi'n flynyddol i artist neu artistiaid, yn gydnabyddiaeth o'u cyfraniad i boblogeiddio'r anthem.

Ymhlith yr enillwyr, mae'r cerddor a'r canwr, Alan Stivell, a'r gantores, Nolwen Leroy.

Image copyright Poellger Bro Gozh Ma Zadou
Image caption Enillydd gwobr Bro Gozh Ma Zadou 2016 yn derbyn tlws o lechen wedi ei cherfio gan y cerfiwr a'r llythrennwr o Sir Gaerfyrddin, Ieuan Rees

Wedi i ddathliadau Gŵyl Ddewi fynd rhagddynt, bydd tîm rygbi Cymru yn gobeithio adfer peth hunanbarch yn y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mharis ym mhencampwriaeth y chwe gwlad ar 18 Mawrth.

Mae'n bosib, yn ôl Mikael Baudu, y bydd ambell Lydawr yn y dorf, fydd yn canu'r geiriau Llydaweg i Hen Wlad Fy Nhadau.

"Mae rhai Llydawyr yn cefnogi Cymru yn hytrach na'r Ffrancwyr beth bynnag!"