Lluniau: Cymru yn y 90au

  • 26 Chwefror 2017
Sara Ogwen Williams yn gwisgo'r ffrog oedd yn symboleiddio cŵl Cymru
Image caption Sara Ogwen Williams yn gwisgo'r ffrog oedd yn symbol o Cŵl Cymru

Bydd cyfle i chi ail fyw eich ieuenctid ffôl pan fydd cyfres newydd ar BBC One Wales yn dadansoddi'r ddegawd pryd cafodd Cymru ei thrawsnewid - y 90au.

Dyma ddegawd Cŵl Cymru a sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ac roedd pobl yn 'smygu mewn tafarndai!

Mi fydd y casgliad yma o luniau yn sicr yn eich paratoi yn feddyliol ar gyfer y rhaglen:


Image caption Scott Gibbs yn dryllio gobeithion Lloegr o ennill y Gamp Lawn yn 1999. Enillodd Cymru 32-31 yn Wembley

Image caption Roedd hi'n amser "malu cacan siocled" yn 1996 wrth i Jonsi ddod yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru

Image caption Catatonia: 1999. Lle mae dy het di Cerys?

Image caption Amser mynd â'r ci am dro!

Image copyright S4C
Image caption Oeddech chi'n codi'n gynnar i wylio Slot Sadwrn ar S4C gyda Daniel Glyn a Gaynor Davies? Ai chi yw un o'r plant yn y llun?

Image caption Pan drodd Ioan Gruffudd ei fflachlamp ymlaen, fe wnaeth e sylweddoli ei fod wedi hen adael Cwmderi ac wedi dod i amlygrwydd byd-eang yn y ffilm 'Titanic' (1997)

Image caption Cofio rhain? Siopau recordiau oedden nhw'n arfer eu galw nhw. Roedden nhw'n boblogaidd iawn am flynyddoedd...

Image caption "Pa fotwm 'dy ni'n ei bwyso i gael S4C?" Roedd cyfrifiaduron mewn ysgolion yn dechrau dod yn olygfa gyfarwydd

Image caption Ie dros Gymru. O drwch blewyn pledleisiodd y mwyafrif dros sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1997

Image caption 'Twin Town' gyda Rhys a Llŷr Ifans

Image caption Peidiwch â chynhyrfu! Oedd ganddoch chi 'shell suit' liwgar?

Image caption Oedd ganddoch chi Gameboy yn y 90au?

Image caption Roedd Gorky's Zygotic Mynci'n boblogaidd iawn yn Siapan... a Lerpwl

Image caption Roedd teithwyr yn clywed yr ebychiad "Dwi ar y trên!" yn aml yn y 90au

Image caption Pwy yw'r teulu newydd 'ma yng Nghwmderi?

Image caption Mi 'naeth y CD ddisodli'r casét yn y 90au. 'Dych chi'n cofio'r bechgyn yma? Ble maen nhw nawr tybed?