Cofio Hedd Wyn yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Ynys Môn

  • 20 Chwefror 2017
Hedd Wyn
Image caption Cafodd Ellis Humphrey Ellis ei ladd ar 31 Gorffennaf 1917

Bydd hanes y bardd Hedd Wyn a'r dynion eraill gafodd eu lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu cofio ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, trwy waith Requiem newydd y cyfansoddwr Paul Mealor.

Y bardd Grahame Davies sydd wedi creu'r geiriau ar gyfer y gwaith fydd yn cael ei berfformio yn ystod noson agoriadol yr eisteddfod ym Môn.

Cafodd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd ei ladd yn ystod brwydr Passchendaele ger Ypres ym mis Gorffennaf 1917.

Fe olygodd ei farwolaeth na chafodd o wybod ei fod wedi ennill y Gadair yn yr eisteddfod y flwyddyn honno ym Mhenbedw, ac fe gafodd gorchudd du ei rhoi ar y gadair.

Côr yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn canu'r geiriau a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn chwarae'r gerddoriaeth.

Bydd unawdwyr eraill hefyd yn perfformio yn ystod y noson.

'Rhan o brofiad y Cymry'

Dywedodd Paul Mealor bod hi'n "anrhydedd mawr i gael bod yn rhan o'r gwaith hwn sy'n ei goffáu (Hedd Wyn) drwy gerddoriaeth".

Ychwanegodd mai'r nod fydd "cynnig ambell funud o heddwch a myfyrdod ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, i goffáu'r dyn, ei hanes a'i farddoniaeth".

Mae gan Grahame Davies gysylltiad personol efo'r rhyfel am fod ei daid, John William Davies, wedi ymladd yn y rhyfel.

Image caption Mae cerflun i gofio Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd

"Mae hanes Hedd Wyn yn rhan annatod o'n profiad fel Cymry, yn un o storïau mwyaf dirdynnol y Rhyfel Byd Cyntaf fel y cyfryw, ac yn symbol o golli cenhedlaeth o fechgyn ifanc," meddai.

Un rhan o waith ehangach yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r Requiem i gofio'r rhyfel ganrif yn ôl.

'A Oes Heddwch?' yw teitl y prosiect ac mae Aled a Dafydd Hughes, sydd yn chwarae gyda'r grŵp Cowbois Rhos Botwnnog, wedi cyfansoddi darnau eraill.

Guto Dafydd sydd wedi ysgrifennu'r geiriau i fynd gyda'r gerddoriaeth.