Llai o gyffuriau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal?

Sarah Rochira
Image caption Mae Sarah Rochira am weld tystiolaeth fod llai o gyffuriau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio

Dair blynedd wedi i adroddiad nodi bod yn rhaid lleihau'r defnydd anaddas o feddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am dystiolaeth fod pethau wedi newid.

Yn 2014 fe gyhoeddodd Sarah Rochira adroddiad a oedd yn seiliedig ar brofiadau preswylwyr mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Un o'r materion a gododd yn gyson oedd y defnydd anaddas o feddyginiaeth gwrthseicotig.

O achos hynny fe wnaeth ei hadroddiad argymell nifer o gynlluniau a fyddai'n gostwng y nifer o gyffuriau cryf a oedd yn cael eu rhoi i bobl â dementia.

Roedd y rhan fwyaf o'r argymhellion yn cyfeirio'n benodol at fyrddau iechyd Cymru.

Nawr mae'r Comisiynydd yn galw arnyn nhw i roi tystiolaeth bod y defnydd o'r cyffuriau wedi gostwng.

"Mae'n sgandal cenedlaethol," meddai Sarah Rochira wrth raglen Radio Wales, Eye on Wales. "Mi wnes i'n glir pan gyhoeddais i fy adolygiad y buaswn yn dychwelyd i weld os oes newid wedi bod.

"Cyn diwedd y flwyddyn mi fyddai'n cyhoeddi fy nghasgliadau ac mae'n hynod bwysig bod byrddau iechyd yn deall pa mor anaddas yw'r sefyllfa o'r fath a bod angen dangos gwelliant."

Mae cyffuriau gwrthseicotig, gan amlaf, yn cael eu defnyddio i drin cyflyrau megis schizophrenia ac anhwylder deubegwn (bipolar disorder).

Nid yw'r rhan fwyaf o'r cyffuriau fod i drin dementia ond maent yn cael eu rhoi i gleifion sy'n dangos symptomau seicolegol o'r cyflwr.

Dangosodd arolwg gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ym mis Tachwedd y llynedd bod 18% o gleifion dementia wedi derbyn cyffuriau gwrthseicotig.

Pan mae hynny'n digwydd mae'n bwysig bod y claf yn cael dos isel am gyfnod mor fyr ag sy'n bosib.

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'r Gymdeithas Fferyllol yng Nghymru yn credu bod llai o gyffuriau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal

Yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Sarah Rochira fe gyhoeddodd y Gymdeithas Fferyllol yng Nghymru ei adroddiad ei hunain ac maen nhw'n ffyddiog fod y sefyllfa mewn cartrefi gofal yn gwella.

"Mae yna enghreifftiau o arfer arbenigol," meddai Mair Davies, cyfarwyddwr y gymdeithas.

"Be sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau bod hyn yn digwydd ym mhob cartref gofal yng Nghymru."

Yn ôl Steve Ford sy'n arwain gofal dementia ar ran Fforwm Gofal Cymru mae'n rhaid edrych yn fwy manwl ar yr achosion cynhenid dros ymddygiad person mewn cartref gofal.

"Mi allan nhw fod mewn poen neu efallai ddim yn cyd dynnu â'r person drws nesaf. Nid ffonio'r meddyg yn gofyn am gyffuriau yw'r ateb o hyd."

Ymateb y Byrddau Iechyd

Wrth ymateb i sylwadau Sarah Rochira, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod nhw wedi bod yn adolygu'r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig mewn dau gartref.

"Mae'r adolygiad yma yn dangos faint o fudd sydd 'na i gleifion dementia mewn cartrefi gofal o gydweithio â fferyllwyr arbenigol a nyrsys gofal dementia."

  • Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf eu bod nhw hefyd yn gweld mantais wrth i fferyllwyr weithio ar y cyd gyda meddygon teulu - o ganlyniad mae'n bosib i gleifion mewn cartrefi gofal gael adolygiadau manylach.
  • Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi datblygu trefn debyg ac yn dweud bod llai o niwed i gleifion
  • Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi sicrhau bod nyrsys arbenigol yn darparu hyfforddiant mewn cartrefi gofal - gan gynnwys cartrefi sydd ddim wedi'u cofrestru i ddarparu gofal dementia.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn gweithio'n agos gyda chartrefi gofal ac fe fydd yn darparu tystiolaeth i'r comisiynydd erbyn diwedd mis nesaf.
  • Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod archwiliad yn ystod mis Tachwedd wedi dangos mai 8% o gleifion dementia a gafodd y cyffuriau a bod hynny gryn dipyn yn is na chyfartaledd y DU.

Eye on Wales, BBC Radio Wales, 1230 dydd Sul 19 Chwefror