Mwy o bresenoldeb plismyn ar strydoedd Wrecsam wedi cyfres o ymosodiadau

Siop Kray Pizza Image copyright Google/BBC

Bydd mwy o bresenoldeb plismyn ar strydoedd Wrecsam wedi cyfres o ymosodiadau ar fusnesau.

Nos Iau am 22:50 cafodd arian ei ddwyn o siop Krazy Pizza wedi i ddyn daflu bricsen at y staff.

Funudau yn ddiweddarach aeth dyn i siop sglodion Athena gan geisio dwyn y til ond wnaeth o ddim llwyddo.

Ers hynny mae Heddlu'r Gogledd wedi ceisio cysuro busnesau a'r cyhoedd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Simon Williams: Rydym yn deall bod y gymuned fusnes a'r cyhoedd yn gynyddol bryderus am yr achosion diweddar o ladarata.

"Does dim sicrwydd a yw'r troseddau diweddaraf yn gysylltiedig â digwyddiadau cynharach.

"Ond fe fyddwn i'n hoffi pwysleisio wrth y gymuned fusnes ein bod yn gwario ar adnoddau sylweddol a thimau arbenigol er mwyn arestio'r troseddwyr."