Cynghorau'n gwario 'tipyn llai' ar offer pobl fyddar

Offer gwrando

Mae cynghorau Cymru wedi gwario 'tipyn llai' ar offer arbenigol i bobl fyddar yn y pedair blynedd diwethaf yn ôl un elusen.

Mae ffigyrau gan Gweithredu ar Golled Clyw Cymru yn dangos bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu gwariant ar offer ar gyfartaledd o 15% neu £40,000 dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Mae'r elusen yn galw ar gynghorau Cymru i "ailystyried" gan fod ganddyn nhw "ddyletswydd i helpu pobl gyda phroblemau clyw."

Mae ffigyrau gan yr elusen hefyd yn dangos bod 575,000 o bobl sy'n byw yng Nghymru yn fyddar neu'n drwm eu clyw, gyda chynghorau yn gwario llai na £210,000 ar gyfer offer arbenigol yn flynyddol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredu ar Golled Clyw Cymru, Richard Williams: "Mae'r toriadau yma yn bryderus pan rydych yn ystyried gofynion y genhedlaeth hŷn.

"Mae dros 70% o bobl dros 70 oed wedi colli eu clyw a gyda nifer o bobl yn byw yn hŷn, mae awdurdodau lleol mewn perygl o anghofio'r bobl sydd mewn perygl o arwahaniad neu salwch meddwl."

'Offer yn hanfodol'

Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i brynu offer arbenigol gan gynnwys ffonau arbenigol, cloch drws sydd yn goleuo a gwrandawyr personol (darn maint ffôn symudol sydd yn trosglwyddo sŵn i'r glust).

Un sydd yn defnyddio'r offer yn ddyddiol yw Chris Williams o Benrhyndeudraeth yng Ngwynedd sydd wedi bod yn fyddar ers yn blentyn, dywedodd: "Heb gymhorthion clyw allai'm clywed dim byd.

"Mae'r offer yma yn hanfodol. Mae gennyf gloch drws arbennig sy'n goleuo ac mae'n gweithio gyda ffôn hefyd. Mae gennyf larwm tân sydd yn gweithio drwy fy ffôn, a gyda thân mae'n fater o fyw neu farw.

"Mae rhai pobl yn gorfod prynu'r offer yma eu hunain. Ond hyd yn oed os ydyn nhw'n gweithio llawn amser tydi pobl methu ei fforddio," meddai Mr Williams.

Mae Cymdeithas awdurdodau lleol Cymru wedi ymateb drwy ddweud bod cyllid awdurdodau lleol wedi cael ei dorri 18% ers 2009/10 a gyda chynghorau yn gorfod arbed £750m dros y pedair blynedd nesaf bydd rhaid cwtogi ar rai gwasanaethau.

Dywedodd llefarydd: "Er bod Llywodraeth Cymru wedi addo £25m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer 2017/18, dim ond chwarter o'r cynnydd i wariant gwasanaethau cymdeithasol bydd hyn yn ei lenwi".