Canlyniadau Pro 12 dydd Sadwrn

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Steve Shingler 22 pwynt allan o 57 i'r Gleision

Gleision 57-20 Treviso

Sgoriodd y Gleision wyth cais yn eu buddugoliaeth o 57-20 yn erbyn Treviso yn y Pro 12.

Roedd yr hanner cyntaf yn agosach wrth i'r ddau dîm fynd fewn i'r egwyl gyda'r sgôr yn 17-13.

Seren y gêm oedd Matthew Morgan ac roedd yn gyfrifol am groesi am un o'r ceisiau hefyd. Roedd Steve Shingler yn gyfrifol am sgorio 22 pwynt i'r tîm cartref.

Mae'r Gleision yn parhau yn y seithfed safle yn nhabl y Pro 12.

Image caption Sgoriodd Hanno Dirksen gais i'r Gweilch yn y golled yn erbyn Munster

Gweilch 23-25 Munster

Colli oedd hanes y Gweilch ddydd Sadwrn yn erbyn Munster.

Roedd y Gweilch ar y blaen o 20-18 ar yr hanner, ond fe ddaeth y tîm o Iwerddon yn ôl i ennill y gêm gyda throsiad gyda munud a hanner o'r gêm yn weddill.

Hanno Dirksen a Kieron Fonotia sgoriodd y ddau gais i'r Gweilch, gyda Dan Davies yn cicio tair cic gosb a dau drosiad.

Mae'r Gweilch yn y trydydd safle yn nhabl cynghrair y Pro 12.

Image caption Tavis Knoyle o'r Dreigiau yn ceisio taclo Craig Ronaldson o Connacht

Connacht 14-9 Dreigiau

Ni lwyddodd y Dreigiau groesi am yr un cais yn y gêm oddi cartref nos Sadwrn yn erbyn Connacht.

Fe ddaeth holl bwyntiau'r Dreigiau o giciau cosb Angus O'Brien.

Mae'r Dreigiau yn aros yn y degfed safle yn nhabl y Pro 12.

Mae gêm nesaf y Dreigiau gartref yn erbyn Leinster nos Wener.