Caergrawnt 3-2 Casnewydd

Ryan Bird Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Ryan Bird ddwy gôl i Gasnewydd yn erbyn Caergrawnt

Mae Casnewydd yn parhau ar waelod yr ail Adran ar ôl iddyn nhw ildio cic o'r smotyn yn y funud olaf oddi cartref yn erbyn Caergrawnt ddydd Sadwrn.

Roedd y sgôr yn gyfartal nes i Mitch Rose weld y cerdyn coch am ildio cic o'r smotyn ym munud olaf y gêm.

Roedd Casnewydd ar y blaen o ddwy gôl diolch i Ryan Bird, a sgoriodd un yn yr hanner cyntaf a'r ail ar yr awr, cyn i Corr, Legge a Roberts sgorio goliau i ennill y gêm i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn parhau ar waelod yr ail adran, saith pwynt i ffwrdd o'r safleoedd diogel.