Wrecsam 0-2 Aldershot

Dean Keates Image copyright Getty Images
Image caption Diwrnod ar ôl arwyddo cytundeb newydd gyda'r clwb, roedd Dean Keates yn siomedig gyda'r golled yn erbyn Aldershot

Colli oedd hanes Wrecsam ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw ildio dwy gôl gartref yn erbyn Aldershot ar y Cae Ras.

Roedd bron i 5,000 o gefnogwyr yn bresennol wrth i Wrecsam geisio mynd saith gêm heb golli yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

Scott Rendell a Jim Kellermann sgoriodd i'r ymwelwyr.

Mae Wrecsam yn ddegfed yn y tabl, a deg pwynt i ffwrdd o'r gemau ail gyfle.