rct
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cyngor yn gwario mwy ar ysgolion Saesneg

18 Chwefror 2017 Diweddarwyd 16:42 GMT

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwario £160m ar ysgolion Saesneg a llai na £1m ar Ysgolion Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

Dyna mae ffigyrau gan Llywodraeth Cymru'n eu dangos.

Mi ofynnodd mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg am wybodaeth ynglŷn â'r gwariant trwy gynllun Ysgolion yr Unfed Ganrif ar hugain.

Mae'r cyngor yn dweud eu bod nhw wedi buddsoddi'n sylweddol mewn addysg Gymraeg yn ddiweddar.