Gwrthdrawiad ar yr A55 yn achosi oedi i gemau pêl-droed

A55 Image copyright Ian Clapham/Twitter

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau "difrifol" ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 yn Sir Conwy.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Llanelwy ac Abergele fore Sadwrn ac roedd rhaid cau'r lon tua'r gorllewin am rai oriau.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw am 11:50, ac fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Roedd yn rhaid i glybiau pêl-droed Bangor a Chonwy oedi eu gemau brynhawn Sadwrn oherwydd y gwrthdrawiad.

Fe gafodd yr ambiwlans awyr hefyd ei alw i'r safle.