Caerdydd 5-0 Rotherham United

caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd CPD Dinas Caerdydd i sicrhau ei trydedd buddugoliaeth mewn wythnos wrth iddyn nhw sgorio pump yn erbyn Rotherham.

Rhoddodd Kadeem Harris y fantais gynnar i'r tîm cartref, cyn i Junior Hoilett fanteisio ar bas wael cyn hanner amser i roi'r Adar Gleision ar y blaen o ddwy gôl.

Carlamodd tîm Neil Warnock ymlaen yn ystod yr ail hanner, diolch i ergyd foli gan Craig Noone a gôl bwerus gan Kenneth Zohore.

Daeth perfformiad arbennig Caerdydd i ben gyda gôl arall gan Zohore, gan sicrhau'r fuddugoliaeth orau i'r tîm cartref ers eu gêm yn erbyn Bristol City yn 2010, pan enillodd yr Adar Gleision o 6-0.