Bale yn ei ôl ac yn sgorio i Real Madrid

Gareth Bale Image copyright AFP

Fe ddaeth mymryn o ryddhad i gefnogwyr pêl-droed Cymru ddydd Sadwrn wrth i seren y tîm cenedlaethol, Gareth Bale ddychwelyd i Real Madrid yn dilyn anaf i'w ffêr.

Fe ddechreuodd Bale ar y fainc, wrth i Real Madrid wynebu Espanyol, gan ddod ymlaen ar ôl 71 munud.

Gwnaeth argraff yn syth gan sgorio gyda saith munud o'r gêm yn weddill, a chipio'r fuddugoliaeth i Madrid o 2-0.

Mae disgwyl y bydd Bale yn holliach ac ar gael i chwarae dros Gymru yn eu gêm ragbrofol nesaf yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar nos Wener Mawrth 24.