Cytundeb milwrol gwerth £82m i gwmni o Sir Ddinbych

alun cairns Image copyright Swyddfa Cymru
Image caption Mae'r cytundeb yn hwb i hyder economi Cymru, meddai Alun Cairns

Mae cwmni o Sir Ddinbych wedi ennill cytundeb amddiffyn gwerth £82m i gynnal a chadw offer ar gyfer Lluoedd Arfog y DU.

Fe fydd y cytundeb chwe blynedd gyda chwmni Qioptiq yn Llanelwy yn creu wyth o swyddi newydd, yn ôl y cyhoeddiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Llun.

Bydd Qioptiq yn gwasanaethu teclynnau fel offer gweld yn y tywyllwch, ac offer targedu ar gyfer arfau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, fod y cytundeb yn "hwb enfawr i hyder economi Cymru".

Fe ddaw'r cyhoeddiad wedi'r newyddion ym mis Tachwedd y byddai cwmni amddiffyn electroneg arall - Defence Electronics & Components Agency, ar safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sir y Fflint - yn dechrau cynhyrchu cydrannau ar gyfer awyrennau rhyfel F-35, mewn cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd.