Cyfeirio achos gwrthdrawiad A55 at gomisiwn cwynion

A55 Image copyright Ian Clapham/Twitter
Image caption Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn dilyn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Llanelwy ac Abergele.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyfeirio'r achos o wrthdrawiad a ddigwyddodd ar ffordd yr A55 at gomisiwn cwynion annibynnol yr Heddlu.

Mae gyrrwr y car BMW oedd mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir Conwy ddydd Sadwrn mewn cyflwr difriol yn yr ysbyty.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn dilyn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Llanelwy ac Abergele.

Roedd rhaid cau'r lon tua'r gorllewin am rai oriau.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd, Jane Banham bod digwyddiadau fel hyn yn "anarferol."