Seintiau'r Alban yn trechu'r Seintiau Newydd

Craig Harrison
Image caption Ni fydd rheolwr y Seintiau Newydd, Craig Harrison yn cael gafael yng Nghwpan Her Irn-Bru eleni

Mae taith y Seintiau Newydd yng Nghwpan Her Irn-Bru ar ben yn dilyn buddugoliaeth St Mirren o'r Alban o 4-1 yn erbyn pencampwyr presennol Uwch Gynghrair Cymru.

Fe aeth y Seintiau Newydd ar y blaen gyda gôl gan Ryan Brobbel.

Sgoriodd St Mirren yn gynnar yn yr ail hanner i unioni'r sgôr, cyn i Steve Saunders o'r Seintiau Newydd weld cerdyn coch am drosedd flêr. Sgoriodd Stephen McGinn gôl i St Mirren yn syth o'r gic rydd.

John Sutton rwydodd drydedd gôl y tîm cartref, a hynny ar ôl methu cic o'r smotyn, cyn i Rory Loy sgorio'r bedwaredd ym munudau olaf y gêm.

Bydd St Mirren nawr yn wynebu Dundee Utd yn rownd derfynol y gwpan ym mis Mawrth.