Rhybudd i ddyn o Aberystwyth am ymosod ar actor Y Gwyll

  • 20 Chwefror 2017
Aneirin Hughes Image copyright Alamy
Image caption Mae Aneirin Hughes yn chwarae rhan y prif arolygydd Brian Prosser yn nrama dditectif Y Gwyll

Mae dyn 40 oed wedi cael ei ryddhau'n amodol am 12 mis gan Lys Ynadon Aberystwyth yn dilyn ymosodiad ar actor Y Gwyll.

Roedd Steven Paul Welsby wedi pledio'n ddieuog yn wreiddiol i achosi niwed corfforol i Aneirin Hughes mewn digwyddiad yn nhafarn Rummers yn Aberystwyth y llynedd.

Ond cafodd y cyhuddiad ei newid i un o ymosodiad cyffredin ddydd Llun, ac fe blediodd Welsby yn euog.

Cafodd orchymyn i dalu £50 o iawndal, ond mae'r rhyddhad amodol yn golygu na fydd yn cael ei gosbi oni bai ei fod yn troseddu eto o fewn y cyfnod sydd wedi'i nodi.

Image copyright Ian Capper/Geograph
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad yn nhafarn Rummers, Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2016

Roedd Welsby eisoes wedi cael dirwy ar ôl pledio'n euog i fod yn feddw ac aflonydd ar achlysur gwahanol yn ystod oriau mân y bore y diwrnod wedi'r ymosodiad, ar 10 Gorffennaf.

Mae dau ddyn arall - Robert Meirion Edwards, 52, a Dewi Lloyd Edwards, 24 - eisoes wedi pledio'n euog ac wedi cael eu dirwyo am yr ymosodiad ar Mr Hughes.

Fe glywodd y llys bod y tri dyn wedi bod ar barti stag pan ddigwyddodd y ffrae gyda Mr Hughes, a ddioddefodd anafiadau i'w geg, clust a llygad.

Roedd yr ymosodiad yn ymwneud â ffrae dros darn o dir amaethyddol, ond fe glywodd y llys bod y mater bellach wedi ei ddatrys.