Dyn mewn cyflwr difrifol wedi i gar ei daro yng Nghasnewydd

  • 21 Chwefror 2017
heddlu

Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar yng Nghasnewydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig ar ôl 19:30 nos Lun ger yr orsaf heddlu ar Heol Cas-gwent.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn 47 oed wedi ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, lle mae'n parhau mewn uned gofal dwys.

Roedd Heol Cas-gwent ar gau am rai o oriau yn dilyn y digwyddiad.