Chwe Gwlad: George North yn holliach i herio'r Alban

  • 22 Chwefror 2017
George North Image copyright Getty Images

Mae George North wedi gwella o anaf i'w goes er mwyn dychwelyd i dîm Cymru i herio'r Alban yng Nghaeredin ddydd Sadwrn.

Mae'r asgellwr yn cymryd lle Alex Cuthbert - yr unig newid i'r tîm gafodd eu trechu gan Loegr yng Nghaerdydd.

Mae Ross Moriarty yn dechrau eto fel wythwr, gyda Taulupe Faletau yn parhau ar y fainc.

Mae un newid ymysg yr eilyddion, wrth i'r clo Luke Charteris ddychwelyd o anaf i gymryd lle Cory Hill.

'Dewis o safle cryf'

Cafodd North ei ddewis i wynebu Lloegr, cyn i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi awr cyn y gic gyntaf nad oedd yn holliach i ddechrau.

"Rydyn ni wedi gallu dewis o safle cryf, sy'n hwb mawr, ac mae hi'n dda croesawu George yn ôl i'r 15 fydd yn dechrau, a Luke i'r fainc," meddai hyfforddwr Cymru, Rob Howley.

"O ran perfformiad, fe wnaethon ni gymryd cam ymlaen yn erbyn Lloegr ac mae angen i ni gymryd y pethau positif o'r perfformiad yna a'i gymryd i'r 80 munud yn erbyn Yr Alban yn Murrayfield."

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 13:55 ddydd Sadwrn.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c), Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Luke Charteris, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Sam Davies, Jamie Roberts.

Tîm Yr Alban

Stuart Hogg; Tim Visser, Huw Jones, Alex Dunbar, Tommy Seymour; Finn Russell, Alistair Price; Gordon Reid, Fraser Brown, Zander Fagerson, Richie Gray, Jonny Gray, John Barclay (c), John Hardie, Ryan Wilson.

Eilyddion: Allan Dell, Ross Ford, Simon Berghan, Tim Swinson, Hamish Watson, Henry Pyrgos, Duncan Weir, Mark Bennett.

Dadansoddiad cyflwynydd Clwb Rygbi, Gareth Rhys Owen:

Fe fydd y chwyldro yn dechrau…..

Yfory, neu'r diwrnod canlynol neu falle'r flwyddyn nesaf.

Unwaith eto mae'r rhai oedd yn gobeithio gweld cyfres o newidiadau i dîm Cymru wedi cael eu siomi.

Ond prin iawn fyddai nifer y rhai oedd wedi proffwydo unrhywbeth arall o ystyried y timau blaenorol y cafodd eu dewis gan yr hyfforddwr Rob Howley, a pherfformiad y tîm nath wynebu Lloegr bythefnos yn ôl.

Mae'r unig newid yn gweld George North yn dychwelyd ar yr asgell ar draul Alex Cuthbert. Mae Cuthbert druan wedi bod yn destun llond sach o feirniadaeth dros y misoedd diwethaf, er i'w berfformiad i'r Gleision y penwythnos diwethaf ein hatgoffa o'r Cuthbert gafodd ei ddewis i'r Llewod bedair blynedd yn ôl.

Fe welson ni ambell i fflach o'r hen George North yn erbyn yr Eidal cyn i anaf amddifadu Rob Holwey o'i bresenoldeb yn erbyn y Saeson.

Doedd dim modd anwybyddu presenoldeb Ross Moriarty yn y gêm honno. Mae Moriarty yn cadw'i le sy'n golygu bod Taulupe Faletau yn aros ar y fainc am benwythnos arall.

Mae'n anodd credu bod Cymru wedi ennill y naw gêm ddiwethaf yn erbyn yr Albanwyr. Mae'r tîm yma yn awgrymu bod y tîm hyfforddi yn gwbl ymwybodol bod na her wirioneddol yn wynebu'r 15 fydd yn ceisio troi naw yn 10.