Tad addysg Gymraeg?

  • 22 Chwefror 2017
Carnhuananwc Image copyright Cymdeithas Carnhuanawc
Image caption Thomas Price 'Carnhuanawc'

Mae addysg Gymraeg yn bwnc llosg ar hyn o bryd gyda'r dadlau am statws ieithyddol Ysgol Llangennech. Mae 'na alw cynyddol hefyd am ragor o ysgolion Cymraeg mewn sawl rhan o Gymru.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth oedd yr ysgol gyfrwng Cymraeg gyntaf i'w sefydlu nôl ym mis Medi 1939. Ond mae'r syniad o gynnal gwersi yn yr iaith yn mynd yn ôl i flynyddoedd cyntaf y bedwaredd ganrif a'r bymtheg diolch i ficer o Sir Frycheiniog.

Roedd Thomas Price - neu 'Carnhuanawc' i roi ei lysenw llenyddol - yn ymgyrchydd diflino dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg mewn oes pan roedd llawer yn gwadu hyd yn oed hawl Cymru i gael ei chydnabod fel cenedl.

Erbyn heddiw mae Cymdeithas Carnhuanawc wedi ei sefydlu i gofio ei gyfraniad arloesol. Keith Bush, un o aelodau'r gymdeithas sy'n rhannu ei hanes gyda Cymru Fyw:


Cymro dihafal, dyna oedd Thomas Price (1787-1848). Mewn cyfnod roedd Carnhuanawc yn eiriolwr diflino dros ei hiaith a'i diwylliant. Datganodd yn groyw bod gan y Cymry draddodiadau a oedd yn eu gwneud yn un o genhedloedd mwyaf anrhydeddus Ewrop.

Cafodd ei syniadaeth am werth Cymreictod ei chrisialu yn ei gyfrol anfarwol Hanes Cymru gafodd ei chyhoeddi, mewn rhannau, rhwng 1836 a 1842. Haerodd nad oedd yna unrhyw osodiad yn y gyfrol nad oedd wedi'i seilio ar dystiolaeth gadarn.

Yn Llanfihangel Brynpabuan, ychydig filltiroedd o Lanfair-ym-Muallt y cafodd Thomas Price ei eni. Ym Mrycheiniog y treuliodd weddill ei oes hefyd, heblaw am ei deithiau cyson i orhain cysylltiadau Celtaidd trwy ynysoedd Prydain ac ar gyfandir Ewrop.

Image caption Thomas Price: Disgrifiodd y polisi o amddifadu plant Cymru o'u hetifeddiaeth ieithyddol fel un "gwaradwyddys"

Ysgol ddwyieithog

Aeth i Ysgol Coleg Crist, Aberhonddu, a cafodd ei ordenio gan yr eglwys esgobol. Bu'n gurad yn ardal Crughywel cyn cael ei benodi'n ficer ar blwyf Llanfihangel Cwmdu, yng nghesail y Mynyddoedd Duon, ble treuliodd gweddill ei fywyd.

Ei argyhoeddiadau Cristnogol a achosodd i Carnhuanawc wrthwynebu'n chwyrn sefyllfa'r Gymraeg yn ysgolion Cymru. Condemniodd drefn addysgol a olygai na allai pobl Cymru ddarllen y Beibl yn yr unig iaith y roedden nhw yn ei deall.

Cychwynodd ysgol ddwyieithog yn y Gellifelen, ger Brynmawr, ac un arall yng Nghwmdu ar ôl iddo symud yno. Disgrifiodd y polisi o amddifadu plant Cymru o'u hetifeddiaeth ieithyddol fel un "gwaradwyddys" ac un o'i ymgyrchoedd cyhoeddus olaf oedd yn erbyn adroddiad y Comisiwn ar Addysg yn Nghymru - Brad y Llyfrau Gleision.

Image caption Roedd Carnhuanawc yn poeni yn fawr am effaith Adroddiad Addysg 1847

Gwladgarwr tanllyd

Cyfrwng naturiol i Thomas Price ledaenu ei syniadau trwyddo oedd yr amryw gylchgronau a flodeuodd yng Nghymru yn ystod ei fywyd, llawer ohonyn nhw o dan ddylanwad enwadau anghydffurfiol.

Mabwysiadodd, wrth gyfrannu'n reolaidd i gyfnodolion fel Seren Gomer, y llysenw 'Carnhuanawc' a oedd, nes iddo ddod yn ffigwr cenedlaethol, yn ei gwneud yn llai amlwg mai un o offeiriadau'r eglwys sefydledig oedd y gwladgarwr tanllyd tu ôl i'r erthyglau.

Wrth gwrs, nid Carnhuanawc oedd yr unig offeiriad a oedd yn caru iaith a diwylliant Cymru.

Cydweithiodd yn agos gyda "hen bersoniaid llengar" eraill ei gyfnod, yn enwedig John Jones (Ioan Tegid). Bu'r ddau ohonyn nhw yn cynorthywo'r Fonesig Charlotte Guest i gyfieithu'r Mabinogi i'r Saesneg.

Datblygiad naturiol, yn sgíl ei ymroddiad i addysg yn Gymraeg, oedd diddordeb Carnhuanawc yn yr iaith Lydaweg. Roedd sefyllfa'r iaith honno yn eglwysi ac ysgolion Llydaw yn waeth, os rhywbeth, na sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru.

Doedd yna ddim fersiwn Llydaweg o'r Beibl hyd yn oed. Aeth Carnhuanawc ati i ddysgu'r iaith honno a chydweithio gyda'r gramadegwr Le Gonidec i lunio Beibl Llydaweg.

Cafodd Carnhuanawc ei ddenu gan adfywiad yr Eisteddfod, gan gychwyn yng Nghaerfyrddin yn 1819, o dan ddylanwad unigolion mor wahanol â Thomas Burgess (Esgob Tyddewi) a Iolo Morganwg.

Daeth yn enwog fel areithydd eisteddfodol. Ei thema cyson oedd cyfraniad y Celtiaid at oroesiad gwareiddiad Cristnogol yn Ewrop yn ystod yr Oesoedd Tywyll. O ganlyniad, dadleuodd dros barchu a meithrin Cymreictod yn hytrach na cheisio'i ddiddymu.

Image caption Roedd Carnhuanawc yn un o golofnwyr ysbrydoledig y cylchgrawn Seren Gomer

'Steddfota

Trwy'r ymddangosiadau eisteddfodol hyn daeth Carnhuanawc yn gyfeillgar gydag Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, noddwr Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni. Arweiniodd Carnhuanawc y y gyfres o eisteddfodau mawreddog gafodd eu cynnal gan y Cymreigyddion yn y Fenni.

Ymhyfrydai yn y ffaith fod yr eiseddfodau hynny'n denu ymwelwyr o bedwar ban byd, nid yn unig Celtiaid eraill, fel y Llydawr Kervaker, awdur y Barzaz Breiz, ond hefyd rhai a ddaeth o wledydd eraill y Cyfandir a hyd yn oed o India.

Erbyn hynny roedd Carnhuanawc wedi cyhoeddi Hanes Cymru, a hynny mewn modd a oedd wedi galluogi'r werin i'w brynu fesul rhan. Ei ymffrost balchaf oedd bod dros 2,000 o gopïau o'r gyfrol wedi'u gwerthu, bron y cyfan ohonyn nhw i Gymry cyffredin.

Braint Cymdeithas Carnhuanawc, ers dros chwarter canfir, yw coffáu bywyd a gwaith Thomas Price trwy gynnal cyfarfodydd ac ymweliadau sy'n trafod ei orchestau.

Mae'n destun balchder i'r Gymdeithas fod chwiliad Google am y term 'Carnhuanawc' bellach yn dychwelyd dros 5,000 o ganlyniadau. Mae syniadau Carnhuanawc yn amlwg yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw ganrif a hanner yn ôl.