Galw am ddiogelu cyn-safle bomiau ger Llanberis

  • 23 Chwefror 2017
Llyn padarn
Image caption Mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai Llyn Padarn gael ei lygru os na fydd hen chwarel Glyn Rhonwy wedi ei lanhau yn ddigonol

Mae ymgyrchwyr sy'n protestio yn erbyn datblygiad ynni yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddiogelu cyn-safle bomiau, gan ddweud fod y Weinyddiaeth wedi cadarnhau fod arfau cemegol wedi eu darganfod yno yn y gorffenol.

Dywed y grŵp Pryderu Am Glyn Rhonwy bod glanhau'r ardal yn ormod o waith i gwmni preifat a'i bod yn hanfodol iddo gael ei wneud yn iawn rhag llygru un o lynoedd mwyaf adnabyddus Cymru.

Cwmni Snowdonia Pumped Hydro (SPH) sy'n gobeithio datblygu cynllun ynni dŵr storfa bwmp yn hen chwarel Glyn Rhonwy, ger Llanberis.

Ond yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn mae'r safle yn ddiogel.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dyma oedd storfa bomiau RAF Llanberis ac Ysgol Ffrwydron yr Awyrlu, ac am flynyddoedd wedyn bu'n lleoliad storio a dinistrio miloedd o dunelli o arfau yn cynnwys bomiau, bwledi a thanwyr.

Image copyright Weinyddiaeth Amddiffyn/Cyngor Gwynedd
Image caption Cafodd hen safle Glyn Rhonwy ei glirio gan arbenigwyr ar ddiwedd y 60au

Yn dilyn pryderon am y safle, ar ddiwedd y 60au dechreuodd tîm o arbenigwyr yr Awyrlu ei ddiogelu'r a chlirio'r holl dwneli, clogwyni a thyllau chwarel.

Nawr mae'r datblygwyr eisiau gwagio'r dŵr sydd wedi cronni yn un o'r chwareli a'i ollwng i mewn i Lyn Padarn cyn dechrau'r gwaith adeiladu.

Nwy mwstard

Fe wnaeth SPH gomisiynu adroddiad gan gwmni arbenigol ynglŷn â hanes milwrol y safle a sut i'w ddatblygu'n ddiogel.

Dywed yr adroddiad hwnnw bod arfau nerfol o'r Almaen wedi eu cadw yno ar ôl y rhyfel, ond dim ond dros dro cyn eu cludo i safle arall.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud wrth raglen Manylu BBC Radio Cymru bod eu hymchwil yn dangos bod y safle yn fwy peryglus nag yr oedden nhw wedi sylweddoli.

Maen nhw wedi dod o hyd i ddogfennau o'r cyfnod sy'n dangos bod un o'r tîm fu'n clirio'r ardal yn y 70au wedi ei anafu gan nwy mwstard - a hynny yn y twll chwarel sy'n rhan o'r cynllun ynni.

Ac ar ôl cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod rhai bomiau nwy mwstard, sy'n arfau cemegol, wedi eu canfod yno yn y 70au.

Image caption Mae'r llythyr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cadarnhau bod bomiau nwy mwstard wedi bod ar y safle

Dywedodd Ann Lawton, o'r grŵp Pryderu Dros Glyn Rhonwy: "O'r dechrau mae SPH wedi dweud doedd yna ddim chemical weapons yno, a dim ond ar ôl i ni ddangos y dystiolaeth sydd ganddo ni maen nhw wedi cydnabod bod nhw wedi bod yno.

"Dwi wedi bod mewn cyswllt 'efo'r MOD ac mae ganddyn nhw un adroddiad sy'n dweud bod y cemegau ddaru nhw ddod o hyd i….wedi eu dympio yna.

"Mae yna adroddiad arall yn dweud bod yr un rhai wedi eu cymryd i Porton Down [canolfan wyddoniaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn] ond alla nhw ddim dweud pryn adroddiad sydd yn wir.

"Pwy a ŵyr be sydd yna?"

Image caption Mae Ann Lawton a Jeff Taylor eisiau i'r MOD wneud yn siwr nad oes unrhyw arfau cemegol ar y safle

Mae'r grŵp hefyd yn poeni am weddillion yr holl arfau gafodd eu llosgi ar y safle a'r effaith all hyn gael ar lefel y metalau yn y dŵr fydd yn mynd i Lyn Padarn.

"Os ydi SPH yn meddwl basa nhw'n gallu llnau'r lle - dydan ni'm yn teimlo basa nhw'n gallu llnau y lle'n iawn," meddai.

"Os ydi'r lle yn cael ei ddatblygu da ni'n teimlo basa rhaid i'r MOD lanhau'r lle a'i lanhau o yn llwyr ac wedyn sicrhau bod y lle yn hollol glir o arfau cemegol."

Dilyn canllawiau

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni SPH mai'r unig dystiolaeth o nwy mwstard yn effeithio'r safle maen nhw am ddatblygu yw'r ddamwain i'r milwr oedd yn clirio'r lle yn y 70au oherwydd difrod i un o chwe bom a ddarganfuwyd yno, ac nad oes unrhyw dystiolaeth bod mwy yn debygol o fod yno.

Maen nhw hefyd yn dweud bod cwmni arbenigol yn eu cynghori nhw am y safle ac mai nhw fydd hefyd yn gwneud unrhyw waith clirio petai angen hynny.

Mae'r llefarydd yn dweud eu bod yn dilyn yr holl ganllawiau i osgoi unrhyw lygredd a bod yr awdurdodau yn fodlon gyda'u cynlluniau.

Image caption Un o'r chwareli ar safle Glyn Rhonwy

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi rhoi trwydded i'r cwmni ollwng y dŵr i Lyn Padarn - safle sy'n cael ei warchod oherwydd bywyd gwyllt.

Dywedodd Sian Williams o Cyfoeth Naturiol Cymru y byddan nhw'n monitro'r dŵr sy'n mynd i'r llyn drwy gydol y cyfnod.

"Ar hyn o bryd does 'na ddim tystiolaeth bod metalau uchel yna. Mi rydan ni wedi cael samplau, da ni wedi edrych ar y data hynny wrth wneud y penderfyniad ac mi rydan ni'n fodlon efo'r penderfyniad da ni wedi ei wneud."

Safle'n 'glir o arfau'

Mae cynghorydd Llanberis, a chadeirydd Gweithgor Glyn Rhonwy, Trevor Edwards yn croesawu'r addewid am waith - tua 300 o swyddi adeiladu ac yna hyd at 30 o swyddi parhaol - ac yn dweud nad oes angen pryderu.

Dywedodd: "Os oes yna amodau yna yn dweud peidiwch â gwneud hyn, peidiwch â gwneud llall, gwnewch hyn a gwnewch llall - rhaid iddyn nhw gadw i'r amodau a fydd na ddim llygredd o gwbl, a bydd hwn yn cael ei fonitro."

Image copyright Eric Jones/Geograph
Image caption Yr hen safle storio bomiau yng Nglyn Rhonwy, Llanberis

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth Manylu: "Yn dilyn archwiliad trylwyr ym mis Tachwedd 1975, cafodd safle chwareli Llanberis ei asesu'n glir o arfau.

"Fe wnaeth astudiaeth fwy diweddar o'r holl safleoedd MOD ym Mhrydain, allai fod wedi storio nwy mwstard, ddod i'r casgliad nad oedd angen mwy o waith adfer yn hen safle RAF Llanberis."

Yn dilyn argymhelliad gan yr archwilydd cynllunio wedi ymchwiliad wnaeth bara chwe mis y llynedd, mae disgwyl penderfyniad cynllunio gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn y pythefnos nesaf.

Manylu, dydd Iau 12:30 a dydd Sul 16:00 - ac ar yr iPlayer.