Buddsoddiad BBC: Cyhoeddiad Yr Alban yn 'sarhau' Cymru

  • 22 Chwefror 2017
Pacific Quay Image copyright Getty Images
Image caption Bydd BBC Scotland yn cael ei sianel deledu ei hun

Mae'r BBC wedi cael ei gyhuddo o "sarhau" Cymru ar ôl cyhoeddi sianel deledu newydd i'r Alban.

Mae'r sianel, fydd yn derbyn £19m o arian newydd ac yn darparu rhaglen newyddion nosweithiol am 21:00, wedi denu beirniadaeth gan rai gwleidyddion yng Nghymru.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ddiwrnod ar ôl i'r gorfforaeth ddweud y bydd yn buddsoddi £8.5m yn rhagor pob blwyddyn mewn rhaglenni Saesneg i Gymru.

Roedd gwleidyddion wedi galw i fuddsoddi £30m ar wasanaethau i Gymru.

Dywedodd BBC Cymru bod y gwahaniaeth ym maint y buddsoddiadau yn y ddwy wlad yn rhannol oherwydd bod "anghenion cynulleidfaoedd yn Yr Alban yn wahanol".

'Setliad sylweddol'

Yn gynharach ddydd Mercher mynnodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies nad oedd y cyllid i Gymru yn "friwsion" o'i gymharu â'r Alban, a'i fod yn "setliad sylweddol".

Ychwanegodd wrth raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru bod pwysau gwleidyddol wedi chwarae ei ran yn y ddwy wlad, a bod y darlun yn fwy cymhleth o ystyried gwariant ar yr iaith Gymraeg.

Mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies hefyd wedi dweud bod y feirniadaeth o'r BBC yn "nonsens".

"Mae sianeli sydd wedi'u hariannu'n well, sy'n cyflawni tros Gymru, yn well na sianel ar wahan â chynulleidfa bitw," meddai.

Ychwanegodd Mr Davies ar raglen Good Evening Wales ar BBC Radio Wales nos Fercher ei fod o blaid gweld rhaglen newyddion deledu i Gymru gan y BBC yn cael ei darlledu am 18:00 bob nos.

Image caption Cafodd y cyllid ychwanegol i Gymru gafodd ei gyhoeddi gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall ddydd Mawrth ei ddisgrifio fel swm "trawsnewidiol"

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Darren Millar ar Twitter bod y cyhoeddiad am Yr Alban yn gwneud i'r buddsoddiad yng Nghymru edrych fel "sarhad".

Ychwanegodd llefarydd y blaid Lafur ar ddiwylliant, Kevin Brennan ei bod yn ymddangos bod BBC Cymru yn "cael bargen wael o'i gymharu â'r Alban".

Dywedodd Bethan Jenkins AC o Blaid Cymru, sydd hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad: "Er ei bod yn hollol iawn fod yr Alban yn cael y cyllid i sefydlu sianel newydd, yn canolbwyntio ar yr Alban, gan gynnwys rhaglen newyddion awr o hyd, all hi ddim bod yn iawn i BBC Cymru gael dim ond £8.5 miliwn y flwyddyn - cryn dipyn yn llai na'r £30 miliwn yn ychwanegol a argymhellwyd.

"Does dim esboniad pam na fydd BBC Cymru fyth ar faes chwarae gwastad â gweddill y DG, ac y bydd yn dal i geisio dal i fyny ym maes newyddion a materion cyfoes."

Dywedodd llefarydd o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr: "Mae Cymru'n cael ei thrin yn gywilyddus, am nad yw'n ymddangos bod cynlluniau am sianel na buddsoddiad tebyg yma.

"Er ein bod yn falch iawn bod y BBC yn buddsoddi mewn swyddi newyddiaduraeth yn Yr Alban, dyw'r cyhoeddiad o fwy o arian i Gymru yn ddim wrth gael ei gymharu â'r hyn sy'n cael ei gynnig fan arall, ac mae talwyr ffi'r drwydded yng Nghymru yn cael bargen wael."

Galwodd Cymdeithas yr Iaith fis diwethaf am ddatganoli darlledu i Gymru, gan ddadlau y byddai modd sefydlu rhagor o sianeli teledu Cymraeg wedi i'r cyfrifoldeb symud i'r Cynulliad.

"Mae yna sianel newydd i'r Alban, a dim ond brwsion i ni yng Nghymru," meddai cadeirydd y mudiad, Heledd Gwyndaf.

'Anghenion gwahanol'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru fod "anghenion cynulleidfaoedd yn Yr Alban yn wahanol ac o'r herwydd, mae dewisiadau gwahanol wedi eu gwneud sydd yn gofyn wedyn am lefelau gwahanol o ariannu".

"Mae gan y BBC bresenoldeb cryf iawn yng Nghymru ac rydym yn gwybod bod ein cynulleidfaoedd yn gwylio mwy o deledu'r BBC nag yn unrhyw ran arall o'r DU," meddai'r llefarydd.

"Rydym eisoes yn buddsoddi yn sylweddol yng Nghymru gan gynhyrchu mwy o raglenni ar gyfer y DU cyfan na'n targedau, ac rydym wedi cyhoeddi mesurau pellach fydd yn sicrhau bod ein hallbwn yn adlewyrchu Cymru'n gryfach.

"Yn ogystal, rydym yn buddsoddi degau o filiynau bob blwyddyn mewn teledu cyfrwng Cymraeg. Ond rydym wastad wedi dweud ein bod eisiau gwneud mwy ar gyfer rhaglenni teledu cyfrwng Saesneg sy'n cael eu creu yng Nghymru i Gymru."